Cost of Living Support Icon

Cymorth Ardrethi Busnes

Gweler Busnes Cymru i gael gwybodaeth fanwl am Gymorth Ardrethi Busnes a dogfennau canllaw ategol.

 

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2024-25

Rhaid i bob busnes cymwys wneud cais os ydynt yn dymuno derbyn Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru ar gyfer 2024-25.

 

Gwneud cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Cymorth Ardrethi Elusennol Gorfodol:

Gall elusennau cofrestredig a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol cofrestredig wneud cais am gymorth ar gyfer elusennau. Os oes gan eich elusen hawl i gael y cymorth hwn, byddwch yn cael gostyngiad gorfodol gan 80% ar eich bil ardrethi.

 

Cymorth Ardrethi Dewisol:

Gall sefydliadau 'nid er elw' wneud cais am gymorth ardrethi dewisol a chael cymorth ar ffurf gostyngiad hyd at 100% eu bil ardrethi. Bydd lefel y cymorth a roddir yn dibynnu ar y math o sefydliad ydych chi.

Dyma'r mathau o sefydliadau a all elwa o hyn:

  • Clybiau a thiroedd chwaraeon amatur
  • Canolfannau cymunedol a neuaddau
  • Canolfannau chymunedol lles ac addysgol
  • Sefydliadau ieuenctid
  • Grwpiau celfyddydau, cerddoriaeth, crefyddol, a dyngarol

I wneud cais am gymorth ardrethi gorfodol a/neu ddewisol, lawrlwythwch, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen ganlynol gyda thystiolaeth ategol (manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon):  

 

Ffurflen Gais am Gymorth Gorfodol/Dewisol

Cymorth Ardrethi i Fusnesau Bach:

Bydd rhan fwyaf y safleoedd busnes a feddiannir sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100% a bydd y rhai sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad a fydd yn gostwng ar sail raddedig o 100% i ddim. 

 

Small business rates relief
Darlun o Werth Ardrethol brasDarlun o Werth Ardrethol bras %
 0-6,000  100
 7,000  83.4
 8,000  66.6
 9,000  50.0
 10,000  33.3
 11,000  16.6

Cyfyngir cymorth ardrethi busnesau bach i ddau safle fesul trethdalwr o 1 Ebrill 2018 fesul awdurdod lleol. Cyfrifoldeb y trethdalwr yw rhoi gwybod i’r Cyngor os yw’n derbyn mwy na dau achos o Ostyngiad Busnes Bychan ar hyn o bryd mewn perthynas ag unrhyw eiddo y maent yn gyfrifol am dalu ardrethi busnes ar ei gyfer. I roi gwybod am newid mewn amgylchiadau gallwch gysylltu â'r Cyngor.

Eiddo Gwag:

Mae’n bosibl y bydd eiddo annomestig heb ei feddiannu yn agored i ardrethi eiddo gwag sy’n 100% o’r ddyled arferol. Bydd yr atebolrwydd yn dechrau ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 3 mis neu, mewn achosion o ffatrïoedd a warysau, ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 6 mis. Nid yw pob math o eiddo’n agored i ardrethi eiddo gwag.

 

Rhowch wybod i'r Cyngor cyn gynted ag y daw'r eiddo'n wag a phan fydd yn cael ei ail-feddiannu.

 

Os oes gennych eiddo masnachol gwag yn y Fro, gall ein tîm adfywio ddarparu gwybodaeth am gyllid i'ch cynorthwyo i roi defnydd newydd i’ch eiddo.

 

Eiddo Masnachol Gwag

 

Eiddo a feddiannir yn rhannol (S44A)

Gall eiddo a feddiannir yn rhannol wneud cais drwy eu cyngor lleol i'r swyddfa brisio i gael dosrannu’r gwerth ardrethol i adlewyrchu'r rhannau a feddiannir a'r rhai gwag.

 

I wneud cais am gymorth ardrethi A44A, lawrlwythwch, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen ganlynol gyda thystiolaeth ategol (manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon):

 

Ffurflen gais S44A

  

Problemau wrth dalu eich Ardrethi Busnes?

Mae ardrethi busnes yn fil y mae'n rhaid ei dalu. Fodd bynnag, os ydych yn cael anawsterau, cysylltwch â'r adran ardrethi busnes (manylion ar waelod y dudalen hon) i'w trafod. Efallai y gallwn ddod i drefniant talu y gallwch ei fforddio. 

Cysylltwch â'r adran Ardrethi Busnes 

 

E-bost yw'r dull cysylltu cyflymaf

 

  • 01446 709299

Nodwch, efallai y byddwch yn mynd drwodd i beiriant ateb, gadewch neges gyda'ch enw, rhif a natur eich ymholiad a bydd rhywun yn eich ffonio yn ôl.

 

Post:

Ardrethi Annomestig
Gwasanaethau'r Trysorlys
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
Y Barri
CF63 4RU