Cost of Living Support Icon

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru 2024-25 

Rhaid i bob busnes cymwys wneud cais os ydynt yn dymuno derbyn Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru ar gyfer 2024-25

Ynghylch Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

 

Mae'r rhyddhad hwn wedi'i anelu at fusnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarndai, bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai. Nod y cynllun yw darparu cymorth ar gyfer eiddo cymwys a feddiannir drwy gynnig gostyngiad o 40% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.

 

Bydd y cynllun yn berthnasol i bob busnes cymwys, ond bydd y rhyddhad yn amodol ar uchafswm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws pob eiddo a feddiannir gan yr un busnes.

 

I wirio'ch gwerth ardrethol a dod o hyd i gyfeirnod eich eiddo (os nad oes gennych eich bil wrth law) ewch yma:

 

Tax Service

 

Dim ond un cais y mae angen i chi ei gyflwyno fesul busnes yng Nghyngor Bro Morgannwg, hyd yn oed os ydych yn gwneud cais am sawl eiddo - gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl fanylion eiddo yn barod i wneud cais.

 

Gwefan Business Wales

 

 

Gwneud cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

 

Cyn i chi wneud cais, a fyddech cystal â:

  • Darllen y ddogfen ganllaw uchod yn llawn
  • Sicrhau eich bod yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y ddogfen ganllaw
  • Cyfrif gyfanswm y rhyddhad rydych yn gwneud cais amdano a sicrhau na fyddwch yn mynd dros yr uchafswm o £110,000 ar draws yr holl eiddo rydych chi'n ei feddiannu yng Nghymru. Bydd unrhyw ymgais gan fusnes i hawlio mwy na £110,000 o ryddhad yn peri risg o dynnu’n ôl ryddhad a roddwyd dan y cynllun i'r busnes hwnnw gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru
  • Sicrhau bod eich cyfeirnod Ardrethi Annomestig wrth law – gallwch ddefnyddio rhif eich cyfrif neu rif eiddo – mae'r ddau yn dechrau gyda "10" ac ar gael ar eich bil Ardrethi Annomestig blynyddol

Bydd ceisiadau'n cael eu prosesu cyn gynted â phosibl: rhaid i chi dalu eich rhandaliadau misol yn unol â'r bil Ardrethi Annomestig amgaeedig fel y’ch cyfarwyddwyd. Os dyfernir rhyddhad, byddwch yn derbyn bil wedi'i ddiweddaru sy'n rhoi gwybod i chi am unrhyw randaliadau diwygiedig.   

  

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2024-25