Cwynion
Er bod gyrwyr Cerbyd Hacni a Llogi Preifat a cherbydau’n sefyll profion a chael eu gwirio’n llym cyn iddynt gael trwydded, weithiau rydym yn derbyn cwynion gan y cyhoedd am y gwasanaeth tacsis.
I’n helpu i ymchwilio i gŵyn yn llawn mae angen gwybodaeth glir a chryno arnom ynghylch y digwyddiad. I’ch helpu chi, rydym wedi creu ffurflen y gallech fod am ei defnyddio. Os, ar ôl cwblhau’r ymchwiliad, nad oes digon o dystiolaeth i erlyn gyrrwr trwyddedig gofynnir i chi gyflwyno datganiad tyst ac yna gallai fod angen i chi roi tystiolaeth yn y llys.
Ni chymerir camau gweithredu swyddogol bob tro gan ei bod yn dibynnu ar nifer o ffactorau; fodd bynnag, caiff pob digwyddiad ei archwilio’n ofalus a’i ystyried gan fod yr Awdurdod bob amser am wella’r gwasanaeth rydym yn ei roi i’r cyhoedd.
Cwblhewch y ffurflen hyd y gallwch gan roi’r manylion perthnasol. Caiff yr holl wybodaeth a roddwch ei thrin â chyfrinachedd llwyr.
Os yw Heddlu De Cymru yn ymdrin â digwyddiad, yn gyffredinol rhaid i Swyddogion Gorfodi Trwyddedu Cyngor Bro Morgannwg ddisgwyl nes y cwblheir yr ymchwiliad hwnnw cyn cymryd camau gweithredu neu gynnal ein hymchwiliad ein hun.
Fodd bynnag, diogelwch y cyhoedd fyddai'r ffactor o ran gwneud penderfyniad yn y pen draw. Os bydd swyddogion yn teimlo y byddai disgwyl tan ddiwedd ymchwiliad yr heddlu yn effeithio’n wael ar y cyhoedd, gall yr Adran Drwyddedu gymryd unrhyw gamau gweithredu priodol sy’n angenrheidiol yn ei barn hi a bydd yn gwneud felly. Gallai hyn gynnwys diarddel trwyddedau gyrru gyrwyr Cerbyd Hacni a Llogi Preifat ar unwaith.