Cost of Living Support Icon

Trwydded Personol

Mae Trwydded Personol yn caniatáu i ddeiliad y drwydded awdurdodi gwerthu alcohol o eiddo trwyddedig ar gyfer gwerthu alcohol drwy fanwerthu megis mewn tafarn, siopau sy’n gwerthu alcohol neu archfarchnadoedd.

 

Vale-of-Glamorgan-Council-logo

Adran: 

Tîm Trwyddedu, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

Y Broses Ymgeisio 

Er mwyn gwneud cais am Drwydded Personol, rhaid i ymgeiswyr gwblhau a chyflwyno cais gan gynnwys y canlynol:

  • Ffurflen gais perthnasol
  • Ffurflen Datgan a Datgelu Collfarnau
  • Tystysgrif gwreiddiol y cymhwyster trwyddedu wedi'i achredu
  • Tystysgrif collfarn troseddol, tystysgrif GDG neu wiriad PNC. Holwch yn eich gorsaf heddlu leol
  • Cofiwch – rhaid i ddyddiad cyflwyno’r dystysgrif neu chwiliadau fod o fewn un mis calendr o’r dyddiad y mae’r Awdurdod Trwyddedu yn derbyn y cais.

     

  • Ffi perthnasol
  • 2 lun pasbort, a rhaid i un o’r rhain gael ei ardystio gan gyfreithiwr, notari, person pwysig yn y gymuned neu unrhyw berson proffesiynol a chymwys gan gynnwys datganiad yn cadarnhau bod y llun yn debyg i’r ymgeisydd
  • Prawf o hawl i fyw a gweithio – Gweler y nodiadau canllaw am ragor o wybodaeth

 

Amodau

Mae’r drwydded yn berthnasol ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Er mwyn gwneud cais am Drwydded Personol rhaid i chi:

  • Fod o leiaf 18 oed
  • Peidio â chael unrhyw gollfarnau penodol fel y nodir yn y Ddeddf
  • Bod â chymhwyster trwyddedu achrededig 
  • Peidio â bod wedi canslo trwydded personol o fewn 5 mlynedd o’r cais

Ffioedd

Ffi dynodedig o £37

Troseddau a Dirwyon

Rhaid i ddeiliaid Trwyddedau Personol roi gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu perthnasol am unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau. Bydd peidio â gwneud hyn yn drosedd.

  

Darparwyr cymwysterau trwydded personol achrededig