Y Broses Ymgeisio
Mae angen trwydded waeth p’un ai yw’r gweithgarwch er elw masnachol ai peidio.
Er mwyn cael trwydded, rhaid i chi gyflwyno ffurflen gais yn gyntaf ynghyd â Chynllun Gwella a Chyfoethogi a Chynllun Cymdeithasoli yn ogystal ag adroddiad gan Law-filfeddyg sy’n cadarnhau bod y geist a’r cŵn bridio yn addas i’w defnyddio mewn sefydliad bridio. Dylid anfon y rhain ynghyd â’r ffi ofynnol i’r adran drwyddedu.
Mae’n bosibl y byddwch am gael cyngor gan eich milfeddyg eich hun neu berson arall cymwys wrth gwblhau’r rhaglenni hyn. Fel arall, gallai’r cysylltiadau isod eich helpu i gwblhau’r rhaglenni.
Caiff pob safle newydd ei archwilio gan Ymarferydd Milfeddygol cymeradwy’r Cyngor, a fydd yn codi ffi ychwanegol a gan swyddog yr Awdurdod, i sicrhau bod y llety yn addas; mae’r trefniadau ar gyfer sicrhau bod cŵn yn cael digon o fwyd, diod a deunydd gwely ac amserlen ar gyfer ymweld ac ymarfer cŵn fel sy’n addas. Mae’n rhaid hefyd bod mesurau rhagofalu boddhaol er mwyn atal a rheoli lledu afiechydon ymhlith cŵn ac y caiff cŵn eu diogelu mewn achos tân neu argyfwng arall.
Bydd gofyn am Adroddiad Iechyd a Lles gyda cheisiadau am adnewyddu, wedi eu cwblhau gan yr ymarferwr milfeddygol. Rhaid i ddyddiad yr adroddiad hwn fod nid mwy na 3 mis cyn dyddiad cychwyn y drwydded.