Cost of Living Support Icon

Cynllun Quickstart  

Bydd y fenter yn darparu lleoliadau gwaith chwe mis â thâl i bobl ifanc 18-24 oed sydd wedi'u lleoli yng Nghyngor Bro Morgannwg. Y nod yw darparu sgiliau cyflogaeth hanfodol i bobl ifanc i wella eu rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.  

 

QuickStart2

 

 

Mae Quickstart yn cael ei ariannu gan brosiect CELT+ Bro Morgannwg ac yn cael ei gefnogi gan Cymunedau am Waith a Mwy. Fe'i cynlluniwyd i ddarparu lleoliad chwe mis â thâl i unigolion 18-24 oed, sy'n byw ym Mro Morgannwg ac nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd. 

 

Bydd cyllid y cynllun yn darparu 100% o'r cyflog byw cenedlaethol am 25 awr yr wythnos, ynghyd â chyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau cofrestru awtomatig.  Nid prentisiaeth yw'r cynllun; fodd bynnag, gall pobl symud i brentisiaeth ar unrhyw adeg yn ystod neu ar ôl eu lleoliad gyda chi.

 

Bydd CELT+ hefyd yn helpu i gefnogi rhai costau sefydlu ar gyfer offer, hyfforddiant neu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer y person ifanc a gaiff ei recriwtio.

 

Mae holl adrannau Bro Morgannwg yn gymwys i fynegi diddordeb. Bydd cynllun 2023 yn gweithredu fel a ganlyn:

 

  • Hysbysebwyd swyddi gwag o ddydd Llun 21 Awst. 

  • Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb i gyflwyno eu diddordeb mewn swydd wag i’w ystyried gan y Cydlynydd Quickstart (yn y lle cyntaf) erbyn dydd Gwener 8 Medi fan bellaf.

  • Gweithdai cyn-gyflogaeth (Sgiliau CV/Cyfweld) i'w cynnig i ddarpar ymgeiswyr yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 18 Medi. 

  • Bydd CVs yn cael eu hanfon at reolwyr adrannol y Fro erbyn dydd Llun 2 Hydref. 

  • Cyfweliadau i'w gosod gan adrannau unigol ar ôl derbyn CVs.

  • Dyddiad dechrau'r lleoliad o ddydd Llun 16 Hydref. 

 

 

 

Sut i Wneud Cais

Mae holl swyddi gwag Quickstart yn cael eu hysbysebu drwy ein tudalen swyddi gwag, dilynwch y ddolen isod i weld y swyddi gwag Quickstart presennol: 

 

Mae ceisiadau bellach wedi cau ar gyfer y Cynllun QuickStart presennol. Bydd gwybodaeth am QuickStart 2024 yn cael ei rhannu yn fuan.

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael galwad yn ôl gan un o'n cynghorwyr, anfonwch eich rhif cyswllt gorau drwy e-bost i 

  • lharries@valeofglamorgan.gov.uk