Sut i wneud cais
Os gwneir taliad grant a bod tystiolaeth yn dod i'r amlwg wedyn i ddangos nad ydych yn gymwys i gael y taliad grant hwnnw, efallai y byddwn yn gofyn i chi ad-dalu'r grant yn llawn neu'n rhannol. Os penderfynir bod y taliad wedi'i wneud o ganlyniad i weithred o dwyll, gellir cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.
Byddwn yn cynnal unrhyw wiriadau busnes priodol yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i asesu'r cais.
Ffurflen Gais
Mae'r ffurflen gais hon yn ddwyieithog. Ar ôl i'r ffurflen gais agor, byddwch yn gallu dewis iaith a ffefrir drwy glicio ar y canlynol:
-
LAr fwrdd gwaith – Cliciwch y gwymplen ar y dde ar ben uchaf y ffurflen i ddewis naill ai Cymraeg neu Saesneg
-
Ar ffôn symudol – Cliciwch y gwymplen ar ben uchaf y ffurflen i ddewis naill ai Cymraeg neu Saesneg
Dim ond os ydych yn atebol i dalu ardrethi busnes i Gyngor Bro Morgannwg y dylech lenwi’r ffurflen gais hon.**
**Os nad ydych yn atebol am Ardrethi Busnes yng Nghyngor Bro Morgannwg gan nad ydych wedi rhoi gwybod i'r adran o'ch meddiannaeth eto AC yn bodloni'r meini prawf, cyflwynwch gais, FODD BYNNAG, byddwch yn derbyn e-bost yn fuan yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth (prydles / trwydded / cyfriflen cyfleustodau / cyfriflen banc) i ddangos y dylech fod yn atebol er mwyn i'ch cais gael ei ystyried.