Cost of Living Support Icon

Ardaloedd Menter 

Dysgwch fwy am Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd – Sain Tathan, sydd wedi’i lleoli ym Mro Morgannwg ac sy’n un o awyrofodau arweiniol y DU, lleoliad cynhyrchu a pheirianneg, o fewn cyrraedd agos i ganol Caerdydd. 

 

Digwyddiad Parth Menter Hydref 2017

Digwyddiad Parth Menter Gwanwyn 2018

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau yn y dyfodol cysylltwch â economic@valeofglamorgan.gov.uk

 

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y seilwaith busnes yn Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd – Sain Tathan sydd wedi’i flaenoriaethu ar gyfer band-eang y genhedlaeth nesaf, sydd â gweithlu lleol medrus, a chysylltiadau trafnidiaeth tir ac aer rhagorol, sy’n ei wneud yn lle perffaith ar gyfer buddsoddiad a thwf busnes. 

 

Mae’r Ardal Fenter yn darparu ar gyfer y sectorau awyrofod, amddiffyn, cerbydau modur, cynhyrchu a pheirianneg, ac mae ei hanes hir yn y sectorau hyn wedi darparu’r cyfleusterau, sgiliau, profiad a chadwyn gyflenwi leol i sicrhau bod Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd - Sain Tathan yn lleoliad arweiniol ar gyfer busnes. 

 

Mae gan yr Ardal Fenter gysylltiadau sefydledig â phrifysgolion Cymru a darparwyr hyfforddiant awyrofod o’r radd flaenaf sy’n gweithredu wrth ymyl y maes awyr yn y Ganolfan Hyfforddiant Awyrofod Rhyngwladol (ICAT). 

 

Mae Ardal Fenter Maes Awyr Caerdydd – Sain Tathan yn gartref i nifer o fusnesau ar hyn o bryd, gan gynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, British Airways Maintenance Cardiff (BAMC), E-Cube Solutions, ac Aviation Cardiff a bydd yn gartref i gyfleuster cynhyrchu / ymchwil a datblygu Aston Martin, a fydd yn dechrau gweithredu yn 2020.  Mae’r Ardal Fenter yn cynnwys tair ardal benodol: 

 

Map o'r porth - parth menter

Ardal Datblygu’r Porth

190 erw o dir wedi’i neilltuo ar gyfer datblygiad aml-ddefnydd wrth ymyl Maes Awyr Caerdydd. 

Map o'r maes awyr Caerdydd - parth menter

Maes Awyr Caerdydd 

Dros 500 ewr o dir o amgylch y rhedfa 2,392 metr ym Maes Awyr Caerdydd. 

Map o Sain Tathan - parth menter

Parc Busnes Awyrofod Sain Tathan

Dros 200 erw, gan gynnwys rhedfa 1,825 metr mewn lleoliad diogel. 

 

Manteision lleoli mewn Ardal Fenter 

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu cymhelliannau i fusnesau ffynnu mewn Ardaloedd Menter penodol. Maent yn cynnig manteision busnes cymhellol, gan gynnwys: 

  • Amrywiaeth o gymhelliannau ariannol gan gynnwys y lefelau uchaf o gymorth grant yn y DU 
  • Blaenoriaeth ar gyfer Band-eang y Genhedlaeth Nesaf 
  • Prosesau cynllunio cyflym 
  • Cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol a mynediad i farchnadoedd 
  • Lle pwrpasol 
  • Costau eiddo a chyflog cystadleuol 
  • Gweithlu medrus ac academyddion masnachol 
  • Byrddau Ardal sector preifat sy’n cynghori Llywodraeth Cymru a Gweinidogion yn uniongyrchol 

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Ardal Menter Maes Awyr Caerdydd – Sain Tathan Llywodraeth Cymru

 

<< Dychwelyd i'r Dudalen Cymorth Busnes