Cost of Living Support Icon

 

Gwaith ar y gweill i uwchraddio Murchfield Courts

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio i weddnewid Murchfield Courts yn Ninas Powys.

  • Dydd Mawrth, 28 Mis Ionawr 2025

    Bro Morgannwg



Mae’r ailddatblygiad diweddaraf hwn yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ar welliannau posib i’r safle yn Haf 2023.


Bydd yr ardal nawr yn cynnwys man hamdden a chymunedol amlbwrpas gyda chwrt pêl-fasged a phêl-rwyd deuol y gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer gweithgareddau eraill fel ioga, dawns a digwyddiadau cymunedol. 

 

O amgylch y cwrt, mae meinciau amrywiol y gellir eu defnyddio fel offer ffitrwydd, a thirlunio meddal newydd i gynyddu bioamrywiaeth.

Murchfield Court Plans

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau: “Mae’r rhain yn welliannau y mae mawr eu hangen i Murchfield Courts yn dilyn ymgynghoriad â’r gymuned yn Ninas Powys.


“Bydd yr ailddatblygiad hwn yn rhoi lle gwell fyth i drigolion o bob oed ymlacio, cymdeithasu, ymarfer corff a mwynhau bod yn yr awyr agored.


“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cyfleusterau newydd pan fyddant wedi’u cwblhau – a fydd, heb os, yn adnodd amlbwrpas gwych i’r gymuned.”

Mae’r ymgynghorwyr celf Aberrant Architecture wedi'u penodi i ddylunio elfennau celf cyhoeddus y safle, gan gynnwys y dyluniadau newydd ar wyneb y cyrtiau, seddi pwrpasol, a ffensys o amgylch y perimedr.


Ariennir elfennau celf gyhoeddus a mannau agored y cynllun yn bennaf gan gyfraniadau Adran 106, a sicrhawyd gan y Cyngor o ddatblygiadau newydd yn yr ardal. Mae’r cynllun hefyd wedi elwa ar gyllid Chwaraeon Cymru a Rhannu Ffyniant.

Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg: “Bydd y gwaith ailddatblygu yn Murchfield Courts yn rhoi man rhyngweithiol newydd i drigolion ei ddefnyddio a’i fwynhau.


“Mae cyfuno cyllid datblygwyr Adran 106 Celf Gyhoeddus a Mannau Agored Cyhoeddus wedi galluogi contractwyr i greu adnodd cymunedol amlswyddogaethol a hygyrch.”

Prosiect Murchfield Court yw ail gam ar gyfer gwaith yn yr ardal hon ynghyd â’r maes chwarae gerllaw a gafodd ei uwchraddio yn 2021.


Mae disgwyl i'r gwaith o ailddatblygu Murchfield Court gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.