Cost of Living Support Icon

 

Gall trigolion y Fro gofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd 

Gall aelwydydd ym Mro Morgannwg gofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd eleni o 27 Ionawr 2025.

  • Dydd Llun, 27 Mis Ionawr 2025

    Bro Morgannwg



Council garden waste bags

Bydd modd i drigolion sy'n cofrestru cyn 10 Mawrth danysgrifio i gynnig cynnar yn dechrau o £36 y flwyddyn, yr un pris ag yn 2024.

 

Mae dau opsiwn tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth — £36 am hyd at wyth bag o wastraff gardd y pythefnos a £54 am fwy nag wyth bag y pythefnos.

 

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn adolygu ei holl daliadau ar gyfer 2025/26 ac efallai y bydd prisiau ar gyfer tanysgrifiadau gwastraff gardd yn cynyddu ar ôl 10 Mawrth 2025.

 

Gall y rhai sy'n dewis peidio â thanysgrifio i'r gwasanaeth fynd â'u gwastraff gardd i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff am ddim neu ei gompostio gartref o hyd. 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogol a Thrafnidiaeth: “Mae’r Gwasanaeth Tanysgrifio Gwastraff Gardd y Cyngor yn dychwelyd eto ar gyfer 2025/26, yn dilyn blwyddyn lawn gyntaf lwyddiannus mewn gweithrediad.

 

“Mae'r gwasanaeth wedi mynd o nerth i nerth ers lansio’r model tanysgrifio gwastraff gardd ym mis Gorffennaf 2023.

 

“Bydd arian a gynhyrchir o'r cynllun hwn yn helpu'r Cyngor i gynhyrchu’r incwm sydd ei angen wrth i ni edrych i oresgyn diffyg sylweddol yn y gyllideb.

 

“Rwy'n falch o weld y gwasanaeth yn parhau i ddatblygu ers ei sefydlu ac rwy'n ddiolchgar am y cydweithrediad a'r gefnogaeth gan drigolion.

 

“Rwy'n annog trigolion i brynu nawr am y prisiau cynnar hyn, sy'n cyfateb i gynnig y llynedd.”

Bydd angen i ddefnyddwyr gwasanaeth roi bagiau gwastraff ar ymyl eu heiddo erbyn 7y.b ar y diwrnod casglu.

 

Mae eitemau sy'n cael eu casglu fel rhan o'r gwasanaeth yn cynnwys glaswellt, y rhan fwyaf o ddail, planhigion a blodau, yn ogystal â thoriadau llwyni, torriadau gwrychoedd a gwlai anifeiliaid anwes sydd ddim yn bwyta cig fel gwair, gwellt a eilliannau pren.

 

Cynghorir trigolion i beidio â chynnwys pridd, boncyffion, cerrig, chwyn ymledol fel clymog Japan ac ysgarthion anifeiliaid neu ddynol.

 

Os yw preswylwyr eisoes wedi tanysgrifio i'r gwasanaeth, ni fydd eu tanysgrifiadau yn adnewyddu'n awtomatig am gyfnod 2025/26 ac bydd angen iddynt danysgrifio trwy eu cyfrifon presennol i barhau â chasgliadau gwastraff gardd.

 

Gall preswylwyr naill ai danysgrifio drwy wefan y Cyngor neu ffonio 01446 729566.