Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro yn nodi Mis Hanes LHDT+

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymuno â chyrff cyhoeddus eraill ledled y DU i nodi Mis Hanes LHDT+.

  • Dydd Llun, 17 Mis Chwefror 2025

    Bro Morgannwg



Am y ddau ddegawd diwethaf, mae Mis Hanes LHDT+ wedi bod yn gyfnod o fyfyrio ar arwyddocâd cydnabod a dathlu’r gymuned LHDT+.Twnel ar Hood Road yn Y Barri wedi'i goleuo ar gyfer Mis Hanes LHDT+

 

Y thema ar gyfer eleni yw Gweithrediaeth a Newid Cymdeithasol – fel drwy gydol yr hanes mae pobl LHDT+ wedi bod yn actifyddion, ac wedi helpu i lunio a chreu newid cymdeithasol tra’n hyrwyddo cymdeithas i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnam, Aelod Cabinet dros Ymgysylltiad Cymunedol, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol: “Mae cyfranogiad Cyngor Bro Morgannwg ym Mis Hanes LHDT+ yn hollbwysig er mwyn cadarnhau ein hymrwymiad i ddeall, parchu a dathlu amrywiaeth.


“Mae’r mis hwn yn gyfle i daflu goleuni ar frwydrau hanesyddol, cyflawniadau a chyfraniadau’r gymuned LHDT+.”

Bob blwyddyn, mae trefnwyr Mis Hanes LHDT+ yn dewis pump o bobl LHDT+ sydd wedi creu newid cymdeithasol ar draws y canrifoedd wrth ddatblygu newid i fenywod, yr amgylchedd, tai, diarfogi niwclear, cadw treftadaeth, diddymu’r fasnach gaethweision, a mewnfudo, ymhlith llawer o achosion eraill.


Ffigurau Hanesyddol LHDT+ 2025 yw:

 

  • Octavia Hill
  • Ivor Cummings
  • Annie Kenney
  • Charlie Kiss
  • Olaudah Equaino