Cost of Living Support Icon

 

Cynllun plannu coed yn mynd o nerth i nerth

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi plannu nifer o goed stryd newydd ym Mhenarth.

  • Dydd Mawrth, 25 Mis Chwefror 2025

    Bro Morgannwg



Mae’r coed – y rhai cyntaf i gael eu plannu yn y strydlun ers blynyddoedd lawer – i’w gweld ar hyd strydoedd amrywiol o amgylch y dref – gan gynnwys Beach Road, Plymouth Road, Victoria Road ac ar Victoria Square.

 

Mae’r gwaith hwn yn rhan o gynlluniau’r Cyngor i gynyddu gorchudd canopi coed ar dir y Cyngor dros y 15 mlynedd nesaf.


Mae plannu’r coed newydd hyn hefyd yn cyd-fynd â Phrosiect Zero – cynllun y Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 – ac mae’n golygu gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr lleol a grwpiau cadwraeth fel Fforwm Coed Penarth.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau: “Mae’r coed newydd hyn yn cael eu plannu i gymryd lle’r rhai hanesyddol a arferai addurno strydoedd a mannau gwyrdd ym Mhenarth a’r cyffiniau.


“Mae plannu coed ac ail-wylltio yn waith pwysig sy’n hybu ein cynlluniau Project Zero i dorri allyriadau CO2 yn sylweddol cyn diwedd y ddegawd yn ogystal â chynyddu bioamrywiaeth yn yr ardal.”

Mae gwaith i blannu hyd yn oed mwy o goed o amgylch y dref ar y gweill, a disgwylir i'r plannu barhau tan ddiwedd mis Mawrth unwaith y bydd y bonion coed hanesyddol yn cael eu tynnu.