Cost of Living Support Icon

 

Llanilltud Fawr yn lansio ymgyrch dementia

Mae Llanilltud Fawr yn ceisio dod yn dref sy’n ystyriol o ddementia mewn ymdrech i gefnogi trigolion sy'n byw gyda'r cyflwr yn well.

  • Dydd Iau, 13 Mis Chwefror 2025

    Bro Morgannwg



Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid drwy Fforwm Dementia-Gyfeillgar Llanilltud Fawr i helpu’r dref i gyflawni statws ystyriol o ddementia.

 

Llantwit Major Town Photo

Mae rhai o’r camau sy’n cael eu cymryd fel rhan o’r ymgyrch yn cynnwys:

 

  • Codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn lleol
  • Darparu mynediad at wybodaeth i bobl sy'n byw gyda dementia a'u hanwyliaid
  • Cydgysylltu â busnesau lleol i weithredu’r ymgyrch ‘Dementia Listens’ a darparu deunyddiau iddynt ddangos cefnogaeth i’r fenter
  • Helpu i ddarparu gweithgareddau cymdeithasol cynhwysol diogel a chludiant priodol
  • Darparu a hwyluso sesiynau hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia

Bellach mae 45 o fusnesau yn Llanilltud Fawr wedi addo bod yn ‘gyfeillgar i ddementia’ ac mae’r Clwb Rotari lleol wedi rhoi £1000 i ariannu deunyddiau fel matiau mynediad a thaflenni i bobl â dementia a’u gofalwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Gall ddod yn dref sy’n ystyriol o ddementia wneud gwahaniaeth mawr wrth gefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia i fyw bywyd gwell a mwy bodlon.


“Bydd codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr yn lleol yn helpu pobl i barhau i gymryd rhan lawn yn eu cymunedau eu hunain ac aros yn gysylltiedig.


“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi’r ymgyrch i gyflawni statws cyfeillgar i ddementia yn Llanilltud Fawr, a bydd yn parhau i hyrwyddo anghenion yr holl drigolion.”

Bydd y dref hefyd yn cynnal ei Diwrnod Agored Dementia cyntaf ar 12 Ebrill rhwng 10y.b a 2y.p yn Neuadd Llantonian, lle bydd llawer o sefydliadau a gwasanaethau yn bresennol i roi gwybodaeth a chyngor.


Mae yna lawer o weithgareddau sydd eisoes yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn y dref y gallai’r rhai â dementia ddymuno eu mynychu, gan gynnwys y Chatty Caffi yn CF61 a’r Caffi Cof yn Neuadd Eglwys Gatholig Our Lady a St Illtyds.