Cyngor Bro Morgannwg i roi'r gorau i ddefnyddio platfform X
Ni fydd Cyngor Bro Morgannwg bellach yn defnyddio X, - a elwid gynt yn Twitter, fel sianel ar gyfer cyfleu gwybodaeth am ei waith a'i wasanaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:
“Mae hwn yn benderfyniad am werthoedd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r platfform X wedi dod yn gyfystyr â cham-drin, camwybodaeth, a safbwyntiau eithafol.
“Rydym wedi amlinellu ein huchelgais o wneud y Fro yn Sir Noddfa. Un sydd nid yn unig yn groesawgar ond sy'n herio gwahaniaethu a chanfyddiadau negyddol yn weithredol.
“Fel Cyngor rydym yn credu'n gryf bod sicrhau cyfle cyfartal yn rhywbeth y dylem geisio ei ddarparu ar gyfer pob dinesydd.
“Gyda'r uchelgeisiau hyn mewn golwg nid yw X bellach yn teimlo fel gofod lle y dylem fod yn rhyngweithio â'n trigolion.
Rwy'n cydnabod bod llawer o bobl yn dal i ddefnyddio'r platfform ond nid dyma'r lle iawn i ofyn i'n cymuned ymgysylltu â ni.
“Mae hwn hefyd yn benderfyniad ynglŷn â gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau. Mae newidiadau diweddar i X wedi ei gwneud hi'n anoddach ymgysylltu â phobl leol ynglŷn â'n gwaith.
“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â thrigolion ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill, gan gynnwys Facebook, Instagram a LinkedIn.”
Mae'r penderfyniad i adael X wedi'i wneud yng ngoleuni dirywiad sylweddol mewn ymgysylltiad ar y platfform yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn oherwydd niferoedd cynyddol o gyfrifon anactif, yn ogystal â newidiadau i'r algorithm sy'n gyrru'r cynnwys ym mhorthwyr defnyddwyr.
Er gwaethaf cael 29,000 o ddilynwyr ar y platfform, mae llawer o'r cyfrifon hyn bellach yn anweithgar. Mae nifer yr argraffiadau a gyflawnwyd drwy'r platfform bellach yn llai na 10% o'r rhai a gyflawnwyd ddwy flynedd yn ôl.