Cost of Living Support Icon

 

O bwysau i les — cyfleusterau hamdden y Cyngor yn ffit i’r dyfodol

Mae cyfleusterau hamdden ledled Bro Morgannwg wedi elwa ar gyfres o uwchraddiadau newydd cyffrous.

  • Dydd Llun, 14 Mis Ebrill 2025

    Bro Morgannwg



Llantwit Leisure Centre UpgradesMae'r ystafelloedd newid a'r toiledau yng Nghanolfan Hamdden Llanilltud Fawr wedi'u hadnewyddu'n llawn, gan gynnwys cyflwyno cawodydd newydd sy'n arbed dŵr a goleuadau ynni isel.

 

Bydd yr uned trin aer newydd effeithlon sydd yno hefyd yn helpu i gadw'r ardal o amgylch y pwll a'r ystafelloedd newid yn gynnes ac yn sych trwy gydol y flwyddyn.


Mae Canolfan Hamdden y Barri hefyd wedi gweld gwelliannau mawr i'w Campfa Hammer Strength, wrth gael ei drawsnewid gyda parth hyfforddi cwbl hygyrch, ardal ymestyn newydd ac offer ymwrthedd gwell.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Llesiant: “Mae'r uwchraddiadau hyn yn nodi cam sylweddol ymlaen o ran sicrhau bod ein cyfleusterau hamdden yn parhau i ddiwallu anghenion ein holl drigolion. 


“Mae'r newidiadau ecogyfeillgar yng Nghanolfan Hamdden Llanilltud yn rhan bwysig o'n hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd ac maent yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Prosiect Sero y Cyngor i ddod yn garbon-niwtral erbyn 2030.


“Rydym yn gwybod o'n gwaith yn siarad â thrigolion bod mynediad at ystod amrywiol o gyfleusterau hamdden yn bwysig, ac rydym yn ymroddedig i ddarparu mannau o ansawdd uchel sy'n hyrwyddo ffyrdd iachach, mwy egnïol o fyw i bawb ym Mro Morgannwg.”

Cafodd rhai o'r gwelliannau i Ganolfannau Hamdden Llanilltud Fawr a'r Barri eu hariannu'n rhannol gan grantiau gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

 

hammer strength gym