Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 05 Mis Medi 2024
Bro Morgannwg
Mae'r cynllun, sy'n cael ei gyflwyno gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi dyfarnu £249,676 i Gyngor Bro Morgannwg i helpu gyda gwelliannau ar draws ardaloedd coediog y parc gwledig.
Defnyddir y grant ar gyfer nifer o welliannau gan gynnwys:
Mae Parc Gwledig Porthceri yn 220 erw o goetir collddail cymysg a glaswelltir sy'n gartref i nifer o rywogaethau coetir arbenigol, ond heb yr arian gan TWIG efallai y bydd rhai ohonynt yn cael eu colli am byth.
Bydd yr arian yn galluogi gwaith cadwraeth helaeth i ddigwydd ac adfer a diogelu cynefinoedd hanfodol er mwyn sicrhau bod y coetir yn parhau i ffynnu.
Yn ogystal, comisiynnir artist i gysylltu ag ysgolion y Fro wrth ddylunio a chreu llwybr cerfluniau o fewn y coetir.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet Lleoedd Cynaliadwy: “Rydym wrth ein bodd o dderbyn y grant hwn. Diolch i'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy gynllun TWIG, gallwn ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer gwaith cadwraeth hanfodol ac allgymorth cymunedol. “Mae Parc Gwledig Porthceri yn rhan bwysig o'n hanes a'n tirwedd leol. Gyda'r arian hwn gallwn helpu i sicrhau dyfodol disglair i goedwigoedd hynafol hyfryd y Fro.”
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet Lleoedd Cynaliadwy: “Rydym wrth ein bodd o dderbyn y grant hwn. Diolch i'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy gynllun TWIG, gallwn ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer gwaith cadwraeth hanfodol ac allgymorth cymunedol.
“Mae Parc Gwledig Porthceri yn rhan bwysig o'n hanes a'n tirwedd leol. Gyda'r arian hwn gallwn helpu i sicrhau dyfodol disglair i goedwigoedd hynafol hyfryd y Fro.”
Bydd y prosiect hefyd yn helpu Parc Gwledig Porthceri i barhau â'i statws fel aelod o Goedwig Genedlaethol Cymru, a ddyfarnwyd iddo ym mis Tachwedd 2023.