Cost of Living Support Icon

 

Cosmeston (Coed Cogan) a Pharc Gwledig Porthceri yn ennill statws Coedwig Genedlaethol Cymru

Fis diwethaf, dyfarnwyd bod 27 safle newydd, gan gynnwys Parc Gwledig Porthceri a Choed Cogan yn Llynnoedd Cosmeston, yn ennill statws Coedwig Genedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd gyntaf gan Lywodraeth Cymru yng Ngwanwyn 2020.

  • Dydd Gwener, 22 Mis Rhagfyr 2023

    Bro Morgannwg



Porthkerry Woodlands Drone ViewMae'r Goedwig Genedlaethol yn brosiect hirdymor, sy'n cyfateb i raddfa ac uchelgais Llwybr Arfordir Cymru, sy'n cysylltu rhwydwaith o goetiroedd ledled Cymru. Ymhen amser, bydd yn ffurfio rhwydwaith cysylltiedig o goetiroedd ledled Cymru a fydd yn dod â manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.

 

Gallai'r rhain fod yn goetiroedd trefol neu gymunedol bach, tir preifat neu ffermydd, ardaloedd mawr o dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol, elusennau neu goetiroedd sy'n cynhyrchu pren. Nod y cynllun hefyd yw creu ardaloedd coetir newydd ledled Cymru.

 

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod 27 safle arall wedi'u dewis i ymuno â Rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru, sy'n oddeutu 24,000 hectar o goetir ledled Cymru - a 12 ohonynt yn rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

 

Y 15 safle arall oedd yr ardaloedd coetir cymunedol, awdurdod lleol, neu sefydliad preifat cyntaf i gael eu henwi yn y cynllun, sy’n ardal ar y cyd o bron i 800 hectar ledled Cymru. Mae Parc Gwledig Porthceri yn 97 hectar o goetiroedd, ac mae Coed Cogan yn 16.5 hectar o goetiroedd.

Cogan Woods CosmestonDywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy:    "Rwy'n hynod falch bod Parc Gwledig Porthceri a Choed Cogan wedi ennill statws Coedwig Genedlaethol Cymru.   

 

"Mae'r Fro eisoes yn cael ei chydnabod yn genedlaethol am ein harfordir treftadaeth, felly mae gweld rhai o'n coetiroedd yn cyrraedd y rhestr yng ngham cynnar y cynllun, yn wych.

 

"Mae'n deyrnged i waith ein parcmyn a'n gwirfoddolwyr sy'n cynnal a gwarchod ein hardaloedd coediog, yn ogystal ag addysgu ein trigolion a'n hymwelwyr am y rôl bwysig sydd ganddynt wrth ddiogelu a gwella bywyd gwyllt lleol.

 

"Hoffwn longyfarch y timau ym Mhorthceri a Cosmeston am gael eu derbyn ar y cynllun ac edrychaf ymlaen at yr effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar genedlaethau o drigolion y Fro yn y dyfodol."

Hefyd, cyrhaeddodd coedwig gymunedol Ysgol Gynradd Oakfield y rhestr, sy'n 0.6 hectar o dir.