53 o dai cyngor newydd arall yn barod i denantiaid
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cwblhau datblygiad o 53 o dai cyngor newydd ar Heol Hayeswood yn y Barri.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o gynllun hirdymor i gynyddu nifer y tai cyngor wrth i'r Awdurdod edrych i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am y math hwn o lety.
Mae'n dilyn ôl troed cynlluniau tai cyngor eraill yn Llys Llechwedd Jenner, Lon y Felin Wynt a Clos Holm View.
Mae'r datblygiad yn cynnwys eiddo un, dwy, tair a phedair ystafell wely a adeiladwyd ar dir a gafwyd gan Gyngor Bro Morgannwg gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng tai sy'n cael ei brofi ledled y Wlad drwy ddatblygu safleoedd fel Heol y Hayeswood.
“Mae nifer y bobl sydd angen llety fel hyn wedi cynyddu'n sydyn ers y pandemig ac mae'n fater rydym yn gweithio'n galed i'w fynd i'r afael â hwy.
“Dyma'r prosiect diweddaraf o'i fath i'w gwblhau yn y Barri lle mae'r angen ar ei fwyaf ac mae safleoedd eraill hefyd yn agos at eu cwblhau
“Mae'n cynnwys eiddo o'r ansawdd uchaf sy'n darparu cartrefi modern cyfforddus i bobl fyw.”
Wedi'i leoli ar dir ger Ystâd Fasnachu yr Iwerydd ac wrth ymyl y datblygiad bach blaenorol yn Hayes Road, mae Heol Hayeswood yn cynnig cartrefi newydd effeithlon o ran ynni i drigolion a adeiladwyd i'r manylebau uchaf sy'n addas ar gyfer teuluoedd, cyplau a phobl sengl.
Er bod y Cyngor, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi cyflawni nifer o gynlluniau dyma'r prosiect cyntaf y mae'r Awdurdod wedi'i hunan-gyflawni gan gadw is-gontractwyr presennol a phenodi eraill o'r gymuned leol yn uniongyrchol i ei gwblhau i'r safon uchaf a chefnogi'r economi leol..
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor ar y safle yn adeiladu cartrefi newydd ar safle hen Glinig Colcot, Coldbrook Road East ac ail gam yn Clos Holm View, Y Barri, a fydd yn barod ar gyfer tenantiaid newydd dros y misoedd nesaf.