Ymgynghoriad yn lansio ar gyfer Cynllun Gweithredu Drafft Bro Oed-Gyfeillgar
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg (BGC) yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol lleol ac aelodau'r cyhoedd i helpu i wneud y Fro yn lle gwell fyth i dyfu'n hŷn.
Mae'r BGC yn dod ag uwch arweinwyr o sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector ar draws Bro Morgannwg ynghyd, gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg, i weithio mewn partneriaeth ar gyfer dyfodol gwell.
Ym mis Hydref 2023, daeth Bro Morgannwg y bedwaredd ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru i gael Statws Cyfeillgar i Oedran gan Sefydliad Iechyd y Byd. Dyfarnwyd y statws i gydnabod ymrwymiad difrifol partneriaid a phobl hŷn sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y Fro yn lle mae pobl o bob oed yn cael cymorth i fyw ac heneiddio'n dda, yn enwedig y rhai 50 oed a throsodd.
Y cam nesaf yn nhaith y BGC yw datblygu Cynllun Gweithredu Cyfeillgar i Oedran, sy'n cael ei ddatblygu gan Rhwydwaith y Fro Cyfeillgar i Oedran. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys cynrychiolwyr BGC, sefydliadau trydydd sector, grwpiau cymunedol, a phobl hŷn sy'n cydweithio i sicrhau bod y Fro yn lle teg a gwell i bobl hŷn fyw a gweithio.
Mae Rhwydwaith y Fro Cyfeillgar i Oedran yn gofyn am adborth wrth lunio'r camau gweithredu ar gyfer Cynllun Gweithredu Fro Cyfeillgar i Oedran (2025 — 2028) ac mae wedi lansio ymgynghoriad, sy'n rhedeg tan ddydd Sul, Awst 11 ac sy'n cynnwys arolwg byr.
Mae'r Cynllun drafft yn nodi'r meysydd ffocws ar gyfer y tair blynedd nesaf yn unol â'r Siarter Cyfeillgar i Oedran sy'n canolbwyntio ar wyth maes allweddol gan gynnwys: trafnidiaeth, tai, gwasanaethau iechyd, parch a chynhwysiant cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddio: “Mae heneiddio'n effeithio ar bob un ohonom, ac wrth i ni dyfu'n hŷn mae mor bwysig bod y lle rydym yn byw yn darparu ar gyfer ein hanghenion corfforol, cymdeithasol a meddyliol.
“Mae'r Cynllun Gweithredu Cyfeillgar i Oedran yn ddarn pwysig o waith sy'n adlewyrchu ystod o wasanaethau y mae'r Cyngor a'n partneriaid BGC yn eu darparu fel trafnidiaeth, tai a gofal iechyd.
“Mae hwn yn gyfle i bawb ddweud eu dweud ar ba gamau y dylid eu blaenoriaethu a sut y gallwn sicrhau ein bod yn gwasanaethu anghenion ein trigolion hŷn orau.”
Mae copïau papur o'r arolwg ar gael mewn lleoliadau cymunedol gan gynnwys Llyfrgell y Barri, Llyfrgell Penarth a Llyfrgell y Bont-faen.
Mae'r rhwydwaith hefyd yn cynnal nifer o Sesiynau Adborth Cymunedol ar draws y sir i roi cyfle i drigolion rannu adborth wyneb yn wyneb:
- Dydd Gwener Gorffennaf 19, 2 i 4pm - Canolfan Gymunedol Murchfield, Sunnycroft Lane, Dinas Powys, CF64 4QQ
- Dydd Mawrth Gorffennaf 23, 10 tan 12pm - Llyfrgell Gymunedol y Rhws a Chanolfan Gweithgareddau, Fontygary Rd, Rhws, Y Barri CF62 3HL
- Dydd Mercher Gorffennaf 24, 2 i 4pm - Llyfrgell y Bont-faen, Hen Neuadd, Stryd Fawr, Y Bont-faen, CF71 7AH
- Dydd Iau Gorffennaf 25, 12:30 i 2:30pm - Caffi Cymunedol Belle Vue, Bwthyn Belle Vue, Albert Crescent, Penarth CF64 1DA
- Dydd Mawrth Gorffennaf 30, 10:30 i 12:30pm, - Llyfrgell Gymunedol Dinas Powys, Fairoaks, Y Murch, Dinas Powys, CF64 4QU
Fel arall, gallwch gwblhau'r arolwg ar-lein yn www.valepsb.cymru, neu ffoniwch 01446 700111 i ofyn am gopi papur neu gwblhau'r arolwg dros y ffôn.
Os hoffech gymryd rhan yn Rhwydwaith y Fro Cyfeillgar i Oed a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd, e-bostiwch: valepsb@valeofglamorgan.gov.uk.