Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ymuno â chyrff cyhoeddus eraill ledled y DU i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr.

 

  • Dydd Mercher, 24 Mis Ionawr 2024

    Bro Morgannwg



Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ddigwyddiad blynyddol i goffáu'r miliynau o fywydau Iddewig a gollwyd yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau eraill yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia, Darfur ac yn ogystal â lleiafrifoedd eraill a ddioddefodd erledigaeth y Natsïaid. 


Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal arddangosfa ym Mhafiliwn Pier Penarth gyda gweithiau gan yr artistiaid Nicola Tucker a Philip Ford o ddydd Gwener 26 Ionawr tan ddydd Mercher 31 Ionawr. Bydd arddangosfa'r Pafiliwn ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm. Y thema eleni, sydd wedi ei gosod gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost, yw Bregusrwydd Rhyddid.


Bydd y Cyngor hefyd yn goleuo rhai tirnodau cyhoeddus mewn porffor dros y penwythnos fel arwydd pellach o barch a choffâd i'r rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i'r Holocost. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch: “Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn pwysleisio pwysigrwydd cofio, myfyrio ar a chynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effaith hil-laddiad. 

 

"Am yr un deg chwech blynedd diwethaf, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi nodi'r digwyddiad hwn, ac mae gwneud hynny yn ein helpu i gofio a chydnabod erchyllterau'r gorffennol ac yn codi ein hymwybyddiaeth o ddiogelu rhag eu hailadrodd yn y dyfodol."

Mae croeso i bawb ymweld â'r arddangosfa Bregusrwydd Rhyddid i gofio, myfyrio, a nodi Diwrnod Cofio'r Holocost yn ystod y penwythnos hwn. Bydd y ddau artist yn y lleoliad ddydd Sadwrn 27 Ionawr. 

 

Mae mwy o wybodaeth am yr artistiaid a'u gwaith ar gael yn www.valeofglamorgan.gov.uk/celf-ganolog