Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cytuno i brydlesu Parc Seel mewn ymgais i wellar ardal

Gall Cyngor Bro Morgannwg gadarnhau bod Parc Seel yn Ninas Powys yn trosglwyddo i'r Cyngor Cymuned ar brydles 99 mlynedd.  

  • Dydd Mawrth, 27 Mis Chwefror 2024

    Bro Morgannwg


 

 

seel park image

Mae Cyngor Cymuned Dinas Powys yn awyddus i wneud gwelliannau gyda chymorth Grŵp Cyfeillion Parc Seel.  

 

Bydd gweithred gyflwyno yn cael ei gosod ar y Parc gan Feysydd Chwarae Cymru ac felly bydd ar gael i'w fwynhau gan genedlaethau'r dyfodol. ‍‍‍ 

 

Mae trosglwyddiad arfaethedig Parc Seel i Gyngor Cymuned Dinas Powys yn dangos ymrwymiad y Cyngor i weithio mewn partneriaeth ac yn darparu enghraifft glir o gydweithio lle cydnabyddir y gall sefydliad lleol ofalu am fan agored cyhoeddus yn fwy effeithiol.  

 

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Gwyn John: "Mae gweithio mewn partneriaeth wrth wraidd ymrwymiad ein Cyngor i gynnydd a ffyniant.  

 

"Trwy ymdrechion cydweithredol, ein nod yw adeiladu cymunedau cryf, ysgogi datblygu cynaliadwy, a chreu effaith gadarnhaol barhaol i bawb. 

 

“Rydym yn hyderus yn ymrwymiad Cyngor Cymuned Dinas Powys a Chyfeillion Parc Seel i wella'r ardal er budd y gymuned ehangach." 

 

Mae’r Grŵp Cyfeillion Parc Seel wedi bod yn allweddol wrth geisio gwelliannau i'r parc. Bydd y grŵp yn parhau i weithio gyda Chyngor Cymuned Dinas Powys ar ôl cwblhau’r trosglwyddiad gyda'r nod o wella'r ardaloedd hyn i gefnogi cadwraeth natur a galluogi pobl i fwynhau'r man agored ymhellach.  

 

Mae'r ardal i’w throsglwyddo yn cynnwys ardal goediog ac ardal chwarae.