Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro yn Cynnal Partïon Nad

Lledaenodd Tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Cyngor rywfaint o hwyl Nadolig yn gynharach y mis hwn wrth iddynt gynnal dau barti Nadolig i deuluoedd yn y Fro ar Ragfyr 5.

  • Dydd Iau, 19 Mis Rhagfyr 2024

    Bro Morgannwg



Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd - Parti Nadolig

Mynychodd dros 500 o blant, rhieni a gofalwyr y digwyddiadau am ddim yng Nghanolfan y Celfyddydau Memo, y Barri, gan gymryd rhan mewn sawl gweithgaredd Nadoligaidd a drefnwyd gan nifer o ddarparwyr gwasanaeth sy'n gweithredu ar draws y Fro.

 

Cefnogodd sefydliadau fel Chwaraeon a Chwarae, Teuluoedd yn Gyntaf, Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, Cymunedau am Waith a Mwy, Gofalwyr Di-dâl y Fro a llawer mwy y digwyddiad ac ymgysylltu â theuluoedd am eu gwasanaethau, tra'n cynnig rhai gweithgareddau Nadolig hyfryd.

 

Cafodd plant gyfle i gwrdd â'r Tad Nadolig, cael eu paentio wyneb, a chymryd rhan mewn ystod o weithgareddau celf a chrefft ar thema Nadoligaidd. 

Dywedodd Kelly Fenton, Swyddog Allgymorth a Gwybodaeth Tîm FIS a drefnodd y digwyddiadau hefyd: “Mae adborth gan rieni a darparwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol.

 

“Roedd mor hyfryd gweld cymaint o deuluoedd yn mynd i ysbryd y Nadolig a chael cyfle i ddarganfod mwy am y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, a hefyd yn cael amser Nadoligaidd gwych gyda'u plant.”

Mae'r FIS yn cysylltu teuluoedd â gwasanaethau a chymorth, gan gynnwys gofal plant, cymorth gyda chostau gofal plant, gwasanaethau cymorth i deuluoedd, a gweithgareddau i blant a phobl ifanc.

 

Gallwch ddarganfod mwy am FIS ar-lein.