Cost of Living Support Icon

 

Diweddariad ar adolygu deunyddiau a ddefnyddiwyd wrth adeiladu ysgolion ac adeiladau cyhoeddus

 

  • Dydd Gwener, 08 Mis Medi 2023

    Bro Morgannwg



Mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud y datganiad canlynol.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett: "Mae diogelwch disgyblion, staff a phawb sy'n defnyddio ein hadeiladau yn hollbwysig.  Dros y degawd diwethaf, mae'r Cyngor wedi buddsoddi tua £240 miliwn mewn gwelliannau ysgolion a buddsoddiad adeiladau newydd, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw arferol.

 

"Mae'r Cyngor yn adolygu ei holl asedau eiddo gan gynnwys ysgolion ac mae'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  

 

"Mae ein timau yn gweithio'n galed i gasglu gwybodaeth y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdani yn unol â'r amserlenni a gyhoeddwyd yn flaenorol."