Cost of Living Support Icon

 

Lansio cyrsiau newydd Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn y Fro

Mae Canolfan Dysgu'r Fro yn cofrestru dysgwyr ar hyn o bryd ar ein Rhaglen Sgiliau Hanfodol (Saesneg a Mathemateg) o ddechreuwyr i Lefel 2.  Mae'r cyrsiau yn ystod y flwyddyn academaidd (36 wythnos) ac yn ystod y tymor yn unig. Gall dysgwyr gofrestru ar unrhyw adeg.

 

  • Dydd Gwener, 22 Mis Medi 2023

    Bro Morgannwg


 

 

Adult learning courses image

Mae'r tîm dysgu cymunedol yn falch iawn o gyhoeddi y bydd hefyd ddau Gwrs Carlam Sgiliau Hanfodol Cymru newydd sbon ar gyfer Lefel 2 (sy'n cyfateb i TGAU gradd A-C): Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Cymru (Saesneg) a Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Cymru (mathemateg). Mae cyrsiau carlam yn cael eu cynnal dros 20 wythnos.

 

Mae cyrsiau ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn dechrau'r wythnos hon ac maent yn berffaith i unrhyw un sydd am wella eu sgiliau darllen, ysgrifennu a siarad ar gyfer gwaith a bywyd.

 

Mae Canolfan Ddysgu'r Fro yn fasnachfraint Coleg Caerdydd a'r Fro ac yn ganolfan arholi gymeradwy Agored Cymru a chanolfan arholiadau gofrestredig ar gyfer Sgiliau Hanfodol City&Guilds Cymru yn ogystal â Sgiliau ESOL am Oes Coleg y Drindod, Llundain.

 

Ar y Rhaglen Ailgydio mae llawer o Gyrsiau Digidol yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf ar ystod o bynciau a lefelau. Bydd y rhain yn cynnwys Hanfodion Digidol; Diogelwch ar-lein; Rhyngrwyd ac e-bost; Defnyddio Offer Digidol ac Apiau yn ogystal ag ICDL ar Lefel 1, 2 a 3.

 

Mae amrywiaeth o gyrsiau Cyflogadwyedd ar gynnig sydd wedi'u cynllunio i helpu ceiswyr gwaith gydag ystod o sgiliau gan gynnwys Cymorth Cyntaf a Gwasanaeth Cwsmeriaid.

 

Yn ogystal â hyn, mae cyrsiau hefyd ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain, Hyder a Lles a Gwallt a Harddwch.

 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyrsiau yma.