Cost of Living Support Icon

 

Staff Cyngor Bro Morgannwg yn Dathlu Llwyddiant Cyrsiau Cymraeg Gwaith

Yn ddiweddar, bu staff Cyngor Bro Morgannwg yn dathlu gorffen lefel yn y cyrsiau Cymraeg Gwaith.

  • Dydd Llun, 02 Mis Hydref 2023

    Bro Morgannwg



Work Welsh PresentationMae Cymraeg Gwaith yn cynnig hyfforddiant amrywiol a hyblyg i weithwyr sy'n rhan o'r wythnos waith.  Nod y rhaglen Cymraeg Gwaith yw cryfhau sgiliau Cymraeg mewn gweithleoedd ledled Cymru.  

 

Mae cyrsiau ar gael i ddysgwyr ar bob lefel ac maen nhw’n cynnwys sgyrsiau un i un yn ogystal â sesiynau dysgu grŵp. Mae boreau coffi anffurfiol hefyd yn digwydd yn rheolaidd i staff ymarfer eu sgiliau siarad Cymraeg gyda dysgwyr eraill ochr yn ochr â siaradwyr rhugl.

 

Yn ddiweddar, daeth dysgwyr o bob rhan o'r Cyngor at ei gilydd ar gyfer cyflwyniad gwobrau lle cawson nhw dystysgrifau am gwblhau cwrs Cymraeg Gwaith.

 

Yn y cyflwyniad cafodd y grŵp eu hannog i rannu eu profiadau o’r cwrs a gofynnwyd pam fod dysgu'r Gymraeg yn bwysig iddyn nhw. 

Dywedodd Matt Bowmer, Pennaeth Cyllid Cyngor Bro Morgannwg:  "Yn byw ac yn gweithio yng Nghymru, roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig dysgu Cymraeg yn enwedig wrth weithio mewn llywodraeth leol.

 

"Mae hyblygrwydd y sesiynau yn sicrhau fy mod yn gallu gweithio fy sesiynau Cymraeg o gwmpas fy wythnos waith."

 

Ychwanegodd Sharon Miller, Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol:   "Rydw i wedi mwynhau fy sesiynau Cymraeg Gwaith mas draw.  Mae ein hathrawes wych, Sarian, yn magu llawer o hyder yn ei dysgwyr sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth wrth ddysgu iaith sy’n newydd ac weithiau’n anodd.

 

"Mae'r sesiynau Cymraeg Gwaith hefyd wedi rhoi cyfle i mi gymdeithasu a ffurfio cyfeillgarwch â staff o nifer o wasanaethau na fyddwn fel arfer yn cwrdd â nhw yn fy rôl o ddydd i ddydd." 

Yn dilyn canlyniadau'r Cyfrifiad 2021, ym Mro Morgannwg y bu’r cynnydd ail-fwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg o unrhyw ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Cynyddodd canran y siaradwyr Cymraeg o 10.8% yn 2011 i 11.5% yn 2021. 

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi buddsoddi'n sylweddol mewn addysg Gymraeg dros y blynyddoedd i wella hygyrchedd i addysg Gymraeg yn y Fro.  Mae'r buddsoddiadau hyn yn dilyn ymrwymiad y Cyngor yn ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 10 mlynedd (CSGA), a strategaeth 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Ym mis Ebrill, agorodd y Cyngor yr adeilad newydd o'r radd flaenaf yn swyddogol ar gyfer Ysgol Sant Baruc, yr ysgol gynradd Gymraeg yn Nglannau'r Barri.  

 

Cafodd cynlluniau i ddatblygu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Iolo Morganwg yn Y Bont-faen, eu cyhoeddi yn gynharach eleni hefyd.  Bydd yr adeilad newydd, a fydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Medi 2025, yn dyblu capasiti'r ysgol i 420 o leoedd ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: "Mae mor galonogol gweld cymaint o'n staff yn cymryd rhan mewn gwersi Cymraeg - yn enwedig wrth i nifer y trigolion Cymraeg gynyddu yn y Fro.

 

"Mae ein buddsoddiad mewn addysg Gymraeg yn mynd y tu hwnt i ysgolion.  Mae cynnig cyrsiau Cymraeg i'n staff a'n dysgwyr sy'n oedolion yn ein cymunedau yr un mor bwysig i ni wrth i ni barhau i ddatblygu mynediad i'r Gymraeg.

 

"Gan fod mwyafrif ein staff hefyd yn byw yn y Fro, mae cynnig gwersi Cymraeg mewn gwaith nid yn unig yn datblygu sgiliau ein gweithlu ond ein trigolion hefyd."

Mae'r cyrsiau Cymraeg Gwaith yn dod o dan y cynllun Dysgu Cymraeg.  Gall aelodau o'r cyhoedd gofrestru â chyrsiau Dysgu Cymraeg – Y Fro ar-lein. Yn debyg i'r cyrsiau Cymraeg Gwaith, mae'r cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael i ddysgwyr ar bob lefel, o Fynediad i Hyfedredd.