Ysgol Gymraeg yn agor ar Lannau’r Barri
Mae ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg hynod fodern wedi agor ar Lannau’r Barri wrth i Gyngor Bro Morgannwg barhau i dyfu'r iaith.
Symudodd disgyblion Sant Baruc i'w hadeilad newydd heddiw - cyfleuster o'r radd flaenaf â lle i 420 o blant, sydd â llu o nodweddion trawiadol.
Mae'n cymryd lle eu hen adeilad Fictoraidd, a oedd â lle i ddim ond hanner y disgyblion.
Dyma fuddsoddiad diweddaraf y Cyngor mewn addysg Gymraeg ac mae'n dilyn ehangu Ysgol Bro Morgannwg yn 2021.
Cyn hynny, agorwyd Ysgol Dewi Sant yn Llanilltud Fawr, ac ychwanegwyd cylch meithrin newydd y llynedd Mae hwnnw ar gyfer plant sy’n ddwy a hanner oed a hŷn.
Yn ogystal, agorodd Ysgol Gwayn Y Nant, yn y Barri, uned drochi sy’n cynnig cyrsiau Cymraeg dwys i’r rhai nad ydynt yn dod o gartrefi Cymraeg.
Cyfrannodd yr ymdrechion hyn at naid mewn siaradwyr Cymraeg o fewn y Sir, un o bedair yn unig yng Nghymru a welodd gynnydd.
Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Mae adeilad newydd ysgol Sant Baruc yn gyfleuster gwych sy'n rhoi'r llwyfan perffaith i ddisgyblion, athrawon a staff greu llwyddiant.
"Mae'r ysgol yn garbon isel, yn unol â'n hymrwymiad Prosiect Sero, a dyma'r darn diweddaraf o waith yn ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
"Mae'r cynllun gwella helaeth hwnnw wedi gweld uwchraddio mawr ar gyfleusterau addysgol ar draws y Fro.
"Gan fod hon yn ysgol cyfrwng Cymraeg, mae hefyd yn hyrwyddo'r Gymraeg, rhywbeth rydyn ni'n credu sy'n hanfodol bwysig.
"Yn y Fro, mae mwy a mwy o bobl nawr yn siarad Cymraeg ac ry'n ni eisiau i'r niferoedd hynny godi ymhellach.
"Gall adeiladau ysgol fel hyn, sy'n darparu amgylcheddau dysgu o'r radd flaenaf, gyda gwersi’n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg, chwarae rhan fawr wrth helpu i gyflawni hynny."
Mae nodweddion carbon isel yr ysgol yn cynnwys paneli solar a batris storio ar y safle, pympiau gwres ffynhonnell aer - sy'n defnyddio aer o’r tu allan i gynhesu'r adeilad, gwresogi o dan y llawr a phwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y maes parcio.
Y tu mewn, mae awyru mecanyddol, yn hytrach nag uned aerdymheru, a llu o gymhorthion addysgu arloesol.
Mae'r gofod technoleg bwyd yn fawr, sy'n caniatáu mwy o ryngweithio, ac mae'n cynnwys cegin arlwyo lawn. Cafodd hwnnw ei adeiladu drwy ymgynghori â chwmni arlwyo Big Fresh y Cyngor, sydd wedi helpu i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd yn y Fro yn ddiweddar.
Mae mannau awyr agored helaeth, rhai ohonynt ychydig oddi wrth yr ystafelloedd dosbarth, y gellir eu defnyddio ar gyfer addysgu, ynghyd â thirlunio caled a meddal ar gyfer dysgu a chwarae.
Maent yn cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, dau gae glaswellt, cae hyfforddi bach a chynefinoedd i ddatblygu bywyd gwyllt ac annog bioamrywiaeth.