Seremoni Agoriadol Cwrt y Vil yn Llwyddiant Ysgubol
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gyhoeddi bod Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd Cwrt-y-Vil (AChA) ar agor yn swyddogol yn dilyn parti lansio llwyddiannus ddydd Mercher 4 Hydref.

Roedd aelodau'r gymuned leol, Lis Burnett, arweinydd y Cyngor, aelodau cabinet a Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth i gyd yn bresennol i ddathlu'r ailddatblygiad.
Cyflwynodd Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth sesiynau rhagflas ar bêl-droed a phêl-fasged a rhannu siocled poeth a malws melys gyda’r cyhoedd.
Dwedodd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: "Mae hwn yn ddathliad gwych sydd wedi dod â'r gymuned leol ynghyd i fwynhau ac ymgysylltu â'r cyfleuster newydd.
"Mae'r AChA newydd mewn ardal breswyl brysur a bydd o fudd i lawer o bobl.
"Rydym yn gobeithio y bydd y cyfleuster hwn yn annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae chwaraeon, a rhoi cyfle i blant chwarae, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd, addysg, cydlyniant cymunedol a diogelwch.
"Rydym wedi gwneud gwelliannau enfawr i seilwaith chwaraeon ar draws y Fro, ac rydym yn gobeithio y bydd y cyfleusterau hyn o fudd i bawb."

Cafodd y safle ei nodi gan Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth fel un yr hoffent ei weld yn cael ei wella yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y grŵp a'i gyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg.
Dywedodd Tionna Ross, Cydlynydd Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth: "Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i'r digwyddiad.
"Roeddem wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth i ddechrau'r prosiect AChA hwn a chefnogaeth pobl eraill i helpu i gyflawni'r prosiect.
"Rydyn ni wir yn falch ei bod ar agor o'r diwedd er mwyn i'r gymuned ddod at ei gilydd a mwynhau treulio amser gyda’i gilydd drwy gyfrwng chwaraeon."
Amcangyfrifir mai £100,000.00 oedd cost y prosiect ailddatblygu. Cronfeydd cyfalaf yw'r rhain sy'n cynnwys ffioedd technegol ac mae'n rhan o raglen eang i uwchraddio cyfleusterau chwarae ledled y Fro lle mae cyllid yn caniatáu.
Mae hyn yn dilyn gwaith tebyg a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Ardal Chwarae Dewi Sant ym Mhenarth, Windmill Lane yn Llanilltud Fawr, Ardal Chwarae Belle Vue ym Mhenarth, Clos Peiriant yn y Barri ac Ardal Chwarae’r Parc Canolog hefyd yn y Barri.