Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor Yn Nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2023

Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, 23 Tachwedd 2023, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal digwyddiad hyfforddi codi a chario ar gyfer gofalwyr di-dâl.

 

  • Dydd Mercher, 22 Mis Tachwedd 2023

    Bro Morgannwg



Carers Rights Day Logo WelshGwahoddir gofalwyr i alw heibio i'r digwyddiad rhwng 10am a 4pm yn Uned 5, y Ganolfan Gwasanaethau i Fusnesau, Hood Road, y Barri, CF62 5QN, lle bydd Cydlynydd Codi a Chario y Cyngor wrth law i ddangos amrywiaeth o offer a rhoi cyngor ar sut i symud rhywun yn ddiogel.

 

Gofalwr di-dâl yw rhywun sy'n darparu neu'n bwriadu darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl. Bob blwyddyn, mae Carers UK yn codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr drwy ymgyrch genedlaethol Diwrnod Hawliau Gofalwyr.

 

Gall gofalwyr sy'n byw yn y Fro gael mynediad at ystod o gymorth drwy un pwynt cyswllt. Trwy Asesiad Gofalwyr, mae'r gweithiwr cymorth yn dysgu am amgylchiadau gofalwyr ac anghenion cymwys cyn hwyluso gwasanaethau a chymorth priodol.

 

Gall trigolion y Fro sy'n gofalu am rywun ofyn am Asesiad Gofalwyr drwy ffonio 01446 700111 neu e-bostio C1V@valeofglamorgan.gov.uk.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:  "Mae'r Cyngor yn angerddol am gefnogi'r rhai sy'n gofalu am bobl yn y gymuned sy’n agored i niwed.

 

"Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn gyfle i ddathlu gofalwyr ysbrydoledig ar draws y Sir, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth a'r arweiniad sydd ar gael i ofalwyr di-dâl.

 

"Mae'r hyfforddiant codi a chario galw heibio yr wythnos hon yn un o nifer o ddigwyddiadau sy’n rhoi cyfle i ofalwyr siarad â gweithwyr proffesiynol am gyfleoedd i wella eu profiad mewn rôl ofalu."

 

Mae rhagor o wybodaeth am gymorth i ofalwyr di-dâl yn y Fro ar gael ar wefan Cyngor Bro Morgannwg: Gwybodaeth i ofalwyr di-dâl