Gwybodaeth a chyngor
Mae'n rhaid i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am wasanaethau cymorth fel y gall gofalwyr di-dâl ddod o hyd iddynt a'u cyrchu a, lle bo hynny'n briodol, rhoi cymorth i gael mynediad at y gwasanaethau hyn.
Bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu fel pwynt mynediad cyntaf i ddarparu gwybodaeth i helpu pobl i ddeall sut mae'r system gofal a chymorth yn gweithredu yn eu hardal a'r mathau o wasanaeth, gan gynnwys gwasanaethau gofalwyr, sydd ar gael.
Rhaid iddo hefyd gynnwys sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a sut i godi pryderon am les pobl a allai ymddangos fel pe bai ganddynt anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr.