Y Fro yn Lansio Dwy Gronfa Grant Gymunedol
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn lansio dwy gronfa grant sy'n helpu i gefnogi gweledigaeth y Cyngor o "Gymunedau Cryf â Dyfodol Disglair".
Y gyntaf yw'r Gronfa Grant Cymunedau Cryf, sy’n cynnig grantiau i grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned tuag at gost mentrau ym Mro Morgannwg. Nod y Gronfa yw gwella gwydnwch sefydliadau/grwpiau neu eu gweithgareddau drwy ariannu prosiectau sy’n rhoi gwerth ychwanegol i’w gwaith, sy’n eu gwneud yn fwy cynaliadwy yn yr hirdymor ac yn lleihau eu dibyniaeth ar arian grant yn y dyfodol. Gall prosiectau fod werth hyd at £25,000.
Ar gyfer prosiectau sydd werth mwy na £25,000, gallwch nawr gael mynediad at ail grant. Gall y Grant Ffyniant Cyffredin gynorthwyo cymunedau i wella eu hardaloedd a mynediad at drafnidiaeth, helpu prosiectau diwylliannol a threftadaeth lleol yn ogystal â datblygu prosiectau gwirfoddoli a gweithredu cymdeithasol wrth fynd i'r afael â heriau costau byw. Mae yna groeso hefyd i brosiectau sy'n cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau i gael mynediad i waith.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett, "Rydym yn falch o'r Gronfa Grant Cymunedau Cryf a'r achubiaeth y mae'n ei chynnig i'n sefydliadau gwirfoddol, rydym yn gobeithio adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin sy'n fuddsoddiad i’w groesawu yn y Fro, yn enwedig ar yr adeg heriol hon."
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Codi'r Gwastad llywodraeth y DU ac mae'n darparu £2.6 biliwn (ledled y DU) o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn ardaloedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau ac ardaloedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
Bydd manylion pellach am sut y gall y Gronfa Ffyniant Gyffredin gefnogi busnesau lleol ar gael yn fuan.
Mae ceisiadau ar gyfer y ddwy gronfa gymunedol bellach ar agor. I gael rhagor o wybodaeth am y cronfeydd ac i lawrlwytho’r nodiadau canllaw, ewch i: Grant Cymunedau Cryf a/neu Cronfa Ffyniant Gyffredin.