Cost of Living Support Icon

 

Tipio anghyfreithlon yn Aberogwr yn arwain at erlyniad gan y Cyngor

 

  • Dydd Mawrth, 28 Mis Mawrth 2023

    Bro Morgannwg



fly-tipping

Mae preswylydd o Ben-y-bont ar Ogwr wedi derbyn dirwy o £300 am dipio anghyfreithlon yn dilyn ymchwiliad gan Uned Troseddau Gwastraff Cyngor Bro Morgannwg (UTG).

 

Cafodd swyddogion wybod am ddigwyddiad ar dir comin yn Aberogwr lle'r oedd yn ymddangos bod llawer iawn o wastraff adeiladu wedi'i adael.

 

Wedi'i sefydlu fis Mawrth y llynedd, mae'r UTG yn cynnwys cyn-swyddogion o’r Heddlu a Charchardai EF ac yn arbenigo mewn tipio anghyfreithlon ac erlyniadau gwastraff.

 

Fe wnaeth aelodau o'r ganfod y person oedd ynghlwm â'r gwastraff ac mae Rhybudd Cosb Benodedig o £300 wedi ei roi iddynt.

 

Mae ymholiadau i ganfod pwy yw’r cludwr gwastraff twyllodrus dan amheuaeth sy'n gyfrifol am gludo'r deunydd i'r lleoliad yn dal i barhau.

Dwedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau:  "Rwy'n gobeithio bod yr achos hwn yn anfon neges na fydd tipio anghyfreithlon yn cael ei oddef yn y Fro.  Byddwn yn mynd ar ôl y rheiny sy'n cyflawni'r drosedd hon a'u herlyn hyd eithaf y gyfraith.

 

"Mae ein Swyddogion Gorfodi Amgylcheddol yn patrolio mannau poblogaidd ar gyfer tipio anghyfreithlon yn rheolaidd.

 

"Mae pob digwyddiad yn cael ei drin fel lleoliad trosedd ar wahân ac mae ymchwiliad troseddol llawn yn digwydd. Mae swyddogion yn casglu tystiolaeth, yn cyfweld â rhai sydd dan amheuaeth, ac mewn achosion penodol, yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn Diogelwch Cymunedol a Heddlu De Cymru.

 

"Mae hwn yn fater rydyn ni'n ei gymryd o ddifri felly byddwn yn annog unrhyw gyflawnwyr trosedd posib i feddwl ddwywaith cyn tipio eu gwastraff yn y Fro.

 

“Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd. Gallai unrhyw un sy’n cael eu canfod yn cyflawni'r math hwn o drosedd wynebu canlyniadau difrifol, gan cynnwys cael Rhybudd Cosb Benodedig, cael eu herlyn, dirwyon o hyd at £50,000 neu hyd yn oed garchar."

Ers mis Tachwedd 2022, mae'r Cyngor wedi delio â thros 100 o ddigwyddiadau lle mae ‘na amheuaeth o dipio anghyfreithlon yn y Fro ac wedi lansio Cyrch Griffin o ganlyniad i hynny.

 

Mae hon yn strategaeth lle mae mannau tipio anghyfreithlon hysbys yn cael eu targedu a lle na cheir unrhyw oddefgarwch tuag at droseddau gwastraff.