Cynlluniau’r Cyngor am welliannau i Safleoedd Bws y Rhws yn rhan o fuddsoddiad ehangach
Mae disgwyl i Gyngor Bro Morgannwg wneud gwelliannau i dri safle bws i ddiwallu'r angen cynyddol am drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal.
Mae hyn yn bosib oherwydd cyllid gan Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru.
Nod y gwaith yw gwella'r cynllun Teithio Llesol y mae’r Cyngor wrthi’n ei roi ar waith yng nghanol pentref y Rhws.
Mae dau leoliad wedi'u dewis ar gyfer Fontygary Road, gyda safle arall yng Ngorsaf y Rhws.
Bydd y safle bws yng Ngorsaf y Rhws yn cynnig cyfleuster gwell ar gyfer Gwasanaeth Cyswllt Rheilffordd Maes Awyr Caerdydd 905.
Yn ogystal â'r tri safle bws hwn yn y Rhws, mae'r cyllid gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio 11 o safleoedd bws eraill yn y Barri, Dinas Powys, Penarth a Sain Tathan, gyda llochesi newydd.
Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys atgyweirio, ail-baentio safleoedd bysiau presennol ac uwchraddio llawer o safleoedd bysiau gydag arwyddion gwybodaeth solar a baneri safle bws newydd.
Mae hyn yn dilyn gwelliannau blaenorol i wasanaethau bysiau ledled y Fro.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: "Rwy'n croesawu'n llwyr y gwelliannau i safle bysiau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y Rhws ac ardaloedd eraill. Mae seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig effeithlon yn helpu'r economi leol yn ogystal â'r amgylchedd trwy roi ffordd fwy cynaliadwy o deithio.
"Mae gwasanaethau bysiau'n chwarae rhan mor bwysig yn ein cymuned i helpu i gadw pobl mewn cysylltiad. Maen nhw hefyd yn bwysig ar gyfer cynlluniau Prosiect Sero y Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2020."