Cost of Living Support Icon

 

Sicrhau cyllid ychwanegol i wella'r dyluniad terfynol ar gyfer Parc Sglefrio'r Cnap

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chronfa Goffa Richard Taylor a Chwaraeon Cymru i greu parc sglefrio concrit newydd pwrpasol ym Mharc Sglefrio Coffa Richard Taylor yn y Cnap Oer yn y Barri.

 

  • Dydd Mercher, 22 Mis Mawrth 2023

    Bro Morgannwg



Cafwyd £350,000 o gyllid fis Mawrth y llynedd drwy grant gan Chwaraeon Cymru, sydd wedi darparu £200,000 ar gyfer y prosiect, arian cyfalaf gan y Cyngor a £30,000 yn ychwanegol yn dod o Gronfa Goffa Richard Taylor. 


Fodd bynnag, roedd angen £80,900 ychwanegol i'r cynllun gwell a gynhyrchwyd drwy ymgynghori'n helaeth â'r gymuned sglefrio leol a chwmni Bendcrete Leisure Ltd. Sicrhawyd hyn bellach drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.


Knap Skatepark Extended Design

 

Nawr bod y dyluniad terfynol wedi'i gytuno, rhagwelir y bydd Bendcrete yn dechrau ar y gwaith adeiladu ar y safle yn hwyr ym mis Ebrill a bydd y dyluniad yn cymryd tua 14 wythnos i'w adeiladu. 

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Er nad ydym wedi gallu ymgorffori'r holl geisiadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad, bydd y dyluniad newydd yn darparu ar gyfer pawb, ac yn cynnig llinellau trosglwyddo heriol i'r sglefrwyr mwy dawnus. 

 

"Rwy'n falch iawn y bydd y Cyngor, mewn partneriaeth â Chronfa Goffa Richard Taylor a Chwaraeon Cymru, yn darparu cyfleuster o'r safon uchaf ar gyfer y gymuned sglefrfyrddio mewn lleoliad poblogaidd sydd wedi hen ennill ei blwyf."

Ychwanegodd Gaynor Taylor: "Rwyf wrth fy modd bod y Loteri wedi darparu'r arian ychwanegol sydd ei angen ar gyfer i fwrw ymlaen â Pharc Sglefrio newydd Coffa Richard Taylor. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at Bendcrete yn dod ar y safle.


"Hoffwn ddiolch i Chwaraeon Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Waterloo, Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru a haelioni pawb sydd wedi gwneud rhoddion er mwyn gwneud y prosiect hwn yn bosibl."