Cost of Living Support Icon

 

Gall preswylwyr nawr danysgrifio i wasanaeth gwastraff gardd newydd

Ym mis Mai, cyhoeddodd Cyngor Bro Morgannwg newidiadau i gasgliadau gwastraff gardd a sbwriel o fis Gorffennaf ymlaen.

 

  • Dydd Mawrth, 13 Mis Mehefin 2023

    Bro Morgannwg



O 17 Gorffennaf ni fydd y Cyngor yn casglu gwastraff gardd am ddim. Gwahoddir preswylwyr i wneud taliad untro i dalu am gost eu casgliadau gwastraff gardd am weddill eleni.

 

Mae'r Cyngor yn codi naill ai £20 am gasglu hyd at wyth bag bob pythefnos rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd neu £30 am fwy nag wyth bag.

 

O fis Rhagfyr i fis Chwefror gall trigolion sy'n tanysgrifio i'r gwasanaeth hefyd ofyn am gasgliadau ychwanegol, a fydd yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i'r felin. 

 

Gall preswylwyr naill ai danysgrifio trwy wefan y Cyngor www.valeofglamorgan.gov.uk/gwastraffgardd neu ffonio 01446 729566 

 

Bydd casgliadau newydd tair wythnosol ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu hefyd yn dechrau o 3 Gorffennaf.

 

Letters will soon be sent to residents advising of their new collection dates. New refuse collection calendars will also be available on the Council’s website from 19 June.  

 

Cyn bo hir, bydd llythyrau'n cael eu hanfon at breswylwyr yn rhoi gwybod am eu dyddiadau casglu newydd. Bydd calendrau casglu sbwriel newydd hefyd ar gael ar wefan y Cyngor o 19 Mehefin.  

 

Bydd y Cyngor yn dal i gasglu'r un faint o wastraff na ellir ei ailgylchu o'ch cartref, gall preswylwyr gyflwyno hyd at dri bag du bob tair wythnos. Efallai y bydd y rhai sy'n defnyddio cadi hylendid ar hyn o bryd yn dymuno prynu cadi ychwanegol a gall y rhai sydd â lwfans bag porffor ychwanegol barhau i ddefnyddio'r rhain. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ac atebion i gwestiynau cyffredin ar gael ar wefan y Cyngor yn www.valeofglamorgan.gov.uk/ailgylchu