Cost of Living Support Icon

 

Gwaith ailddatblygu ar Faes Hamdden AChA Cwrt-y-Vil Penarth yn dechrau ym mis Awst 2023

Mae Bro Morgannwg wedi penodi contractwr i ddechrau gweithio ym maes hamdden AChA  (Ardal Chwaraeon Amlddefnydd) Cwrt-Y-Vil, i greu cyfleuster chwaraeon wedi'i uwchraddio i ddefnyddwyr

 

  • Dydd Gwener, 02 Mis Mehefin 2023

    Bro Morgannwg



Nid yw’r union ddyddiadau cychwyn wedi eu cadarnhau eto ond y bwriad yw cyflawni’r gwaith o ddechrau mis Awst 2023 gyda chyfnod contract o 6 wythnos.

 

Amcangyfrifir mai £100,000.00 yw gwerth y prosiect ailddatblygu.  Cronfeydd cyfalaf yw'r rhain sy'n cynnwys ffioedd technegol ac mae'n rhan o raglen eang i uwchraddio cyfleusterau chwarae ar ledled y Fro.

 

Cafodd y safle ei nodi gan Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth fel un yr hoffent ei weld yn cael ei wella yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y grŵp a'i gyflwyno i Gyngor Bro Morgannwg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: "Mae Maes Hamdden AChA Penarth yn gyfleuster pwysig i'r gymuned leol, yn darparu man diogel a deniadol i ymarfer corff ynddo.

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn hapus bod disgwyl i'r gwaith ddechrau yn fuan ac yn edrych ymlaen at weld y safle ar ei newydd wedd."

 Bydd rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn yn cael ei ryddhau maes o law.