Cost of Living Support Icon

 

Mae arddangosfa myfyrwyr diwedd blwyddyn Coleg Caerdydd a'r Fro yn agor yn swyddogol

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gyhoeddi bod arddangosfa myfyrwyr diwedd blwyddyn Coleg Caerdydd a'r Fro wedi agor yn swyddogol yn yr Oriel Gelf Ganolog yn y Barri

  • Dydd Iau, 29 Mis Mehefin 2023

    Bro Morgannwg



 

Yn ystod yr Araith Groesawu, dywedodd y Cynghorydd Julie Aviet, Maer Bro Morgannwg: "Am yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gefnogwr parhaus i Goleg Caerdydd a'r Fro a'r adran gelf. 

 

Mae addysg gelf yn cynnig cyfle anhygoel i arbrofi, ennill sgiliau, dysgu am ddeunyddiau, archwilio diddordebau, a dysgu sut i'w mynegi trwy'r technegau rydych chi wedi'u dysgu."

 

Cardiff and Vale College exhibition 1

Mae'r bartneriaeth rhwng adrannau'r celfyddydau yng Nghyngor Bro Morgannwg a Choleg Caerdydd a'r Fro wedi bod yn parhau am yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf ac yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr ac artistiaid arddangos eu gwaith mewn lleoliad proffesiynol.

 

Llongyfarchodd Sharon James, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, y myfyrwyr ar eu sioe wych a dywedodd pa mor lwcus oedd trigolion i gael yr oriel yn Y Barri. 

 

Cyflwynodd Cadeirydd Cyfeillion yr Oriel Gelf Ganolog Dennis Clarke a'r Aelod o'r Bwrdd Dr Jane Salisbury wobr flynyddol y Cyfeillion i ddau o'r myfyrwyr.

 

Wedi'u dewis am eu gwaith caled a'u hymroddiad i'r cwrs, dyfarnwyd tystysgrif a gwobr ariannol i'r myfyrwyr Elina Sarkisian a Kacey Bosely gan y sefydliad.

Cardiff and Vale College exhibition 2

Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Mae'r oriel yn cael ei rhedeg gan Gyngor Bro Morgannwg ac mae'n lle gwych i arddangos gwaith.

 

"Mae'r cyfleuster yn rhoi cyfle prin i fyfyrwyr ymgysylltu â'r cyhoedd ehangach a byddem yn annog pawb i ymgysylltu â chelf lle bo hynny'n bosibl.

 

Hoffem ddymuno pob llwyddiant i'r myfyrwyr gyda'r arddangosfa a'u hymdrechion proffesiynol yn y dyfodol."

Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa hon ac unrhyw ddigwyddiadau celf eraill yn y Fro, ewch i'n tudalen Celf a Diwylliant.