Cost of Living Support Icon

 

Parciau'r Fro yn ennill gwobrau Baner Werdd rhyngwladol

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ennill gwobrau'r Faner Werdd ar gyfer deg safle, gan ddod i'r amlwg unwaith eto fel un o'r siroedd sy'n perfformio orau yng Nghymru.

 

  • Dydd Mawrth, 18 Mis Gorffenaf 2023

    Bro Morgannwg



Gladstone Garden Green FlagDyfarnodd y corff beirniadu a'r elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, statws Baner Werdd i'r mannau sy’n cael eu cynnal gan y Cyngor ar ôl asesu'r safleoedd ar eu glendid, eu cynaliadwyedd a'u cyfranogiad cymunedol, ymhlith meini prawf eraill.

 

Derbyniodd parciau gwledig Cosmeston a Phorthceri yr anrhydedd, ynghyd â Pharc Romilly, Parc Belle Vue, y Parc Canolog, Gerddi’r Cnap, Parc Fictoria, Parc Gladstone, Parc Alexandra, a Gerddi Promenâd Ynys y Barri.

 

Bellach yn ei thrydedd ddegawd, mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd. Mae'n rhaid i barciau wneud cais bob blwyddyn i gadw eu gwobr, ac mae safleoedd buddugol yn cael baner i’w hedfan am ddeuddeng mis.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: "Mae ein parciau a'n gerddi poblogaidd yn denu trigolion ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn, ac felly rwy'n falch iawn o weld cymaint yn cael eu cydnabod gyda gwobr y Faner Werdd unwaith eto.


"Mae safleoedd gwyrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi lles meddyliol a chorfforol, a chydlyniant cymunedol, tra'n darparu gofod cynyddol bwysig i blanhigion a bywyd gwyllt ffynnu. 


"Mae'r safon sy'n ofynnol i gyflawni statws Baner Werdd yn uchel iawn ac mae'r cyflawniad gwych hwn yn dyst i waith caled ac ymrwymiad staff ein parciau, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol."