Diwrnod Hwyl i’r Teulu Dechrau’n Deg yn llwyddiant ysgubol
Cynhaliodd tîm Dechrau'n Deg Cyngor Bro Morgannwg ddiwrnod llawn hwyl i'r teulu ym Mharc Penceodtre yn Nhregatwg ar 26 Gorffennaf.
Cydweithiodd y tîm gyda dros 40 o wasanaethau a sefydliadau gan gynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bro Morgannwg, Llyfrgelloedd, Cymunedau am Waith, Llinell Gynghori Teuluoedd yn Gyntaf, Cymorth Cynnar a thimau Byw'n Iach, i ddarparu diwrnod llawn hwyl am ddim i deuluoedd ei fwynhau.
Roedd y gweithgareddau'n cynnwys celf a chrefft, offer chwarae wedi’u llenwi ag aer, consuro, saethyddiaeth, paentio wynebau, a realiti rhithwir.
Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i'r stondinwyr godi ymwybyddiaeth o'r llu o wasanaethau rhad ac am ddim sydd ar gael yn y Fro sy’n cefnogi teuluoedd.
Rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru yw cynllun Dechrau'n Deg sy'n cefnogi teuluoedd ac yn gwella datblygiad, iechyd a lles plant. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys pedwar hawl gan ddarparu gofal plant, gofal iechyd, rhaglenni rhianta a datblygiad iaith a lleferydd.
Dywedodd Kathryn Clarke, Rheolwr Dechrau'n Deg: "Rydym wedi cynnal diwrnod o hwyl i'r teulu am ddim ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i'r holl asiantaethau sy'n ein cefnogi i gyflawni hyn ar gyfer teuluoedd y Fro.
"Arhosodd y glaw i ffwrdd am y rhan fwyaf o'r dydd, ac roedd yn hyfryd gweld y plant a'u rhieni/gofalwyr yn cymryd rhan yn yr holl weithgareddau a ddarparwyd.
"Diolch yn fawr iawn i bawb fu'n rhan o'r diwrnod, ac yn enwedig Claire Urch – Rheolwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Dechrau’n Deg a Claire Haydon – y Swyddog Diogelwch am gydlynu'r digwyddiad llwyddiannus hwn".
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaethau a chymorth teuluol ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.
Mae'r digwyddiad yn un o nifer o weithgareddau sydd ar gael i bobl ifanc yr haf hwn. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Cyngor wedi casglu calendr o weithgareddau haf rhad ac am ddim a chost isel sy'n addas ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed.
Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau i’w gweld ar wefan Bro Morgannwg.
Dwedodd y Cynghorydd Eddie Williams, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr, ac roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau a'r stondinwyr.
"Roedd y digwyddiad yn ymdrech gydweithredol wirioneddol, wedi'i chydlynu'n arbenigol gan ein Tîm Dechrau'n Deg.
"Mae'r tîm a chymaint o'r sefydliadau a fynychodd, yn darparu cefnogaeth hanfodol i deuluoedd yn y Fro.
"Da iawn i bawb fu’n rhan o’r gwaith!"