Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 23 Mis Ionawr 2023
Bro Morgannwg
Ar ôl ymgynghori â thrigolion, cafodd cynlluniau ar gyfer yr ardal chwarae newydd a gwell eu cwblhau a dechreuodd contractwyr weithio ar y safle ddydd Llun 23 Ionawr.
Nod y buddsoddiad yw trawsnewid yr ardal chwarae wedi dirywio’n ofod hwyliog a modern i blant hyd at 12 oed.
Gyda thema coetir, natur a môr, bydd y safle newydd yn cynnwys amrywiaeth o offer newydd, gan gynnwys siglenni, rowndabowt sy'n addas i gadeiriau olwyn, dringwr pyramid ac offer synhwyraidd.
Gan ystyried sylwadau'r cyhoedd o'r ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r cynlluniau hefyd yn ceisio gwella mynediad i'r safle.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau; "Mae'n wych bod y gwaith adnewyddu yn ardal chwarae Porthceri ar y gweill. "Mae'r gwaith uwchraddio’n rhan o gynllun ehangach i adfywio ardaloedd chwarae ar draws y Fro. “Mae’r safle yn boblogaidd iawn yn y gymuned ac rwy’n siŵr y bydd y cyfleuster newydd yn cael croeso a’i fwynhau gan lawer o bobl. "Bydd y cynlluniau anhygoel yn trawsnewid y safle’n ofod hamdden hwyliog a rhyngweithiol ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canlyniad gorffenedig."
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson - Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau; "Mae'n wych bod y gwaith adnewyddu yn ardal chwarae Porthceri ar y gweill.
"Mae'r gwaith uwchraddio’n rhan o gynllun ehangach i adfywio ardaloedd chwarae ar draws y Fro.
“Mae’r safle yn boblogaidd iawn yn y gymuned ac rwy’n siŵr y bydd y cyfleuster newydd yn cael croeso a’i fwynhau gan lawer o bobl.
"Bydd y cynlluniau anhygoel yn trawsnewid y safle’n ofod hamdden hwyliog a rhyngweithiol ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canlyniad gorffenedig."