Digwyddiad cymorth ym Mharc Hamdden Ffont-y-gari
Bydd amrywiaeth o wasanaethau cymorth yn mynychu digwyddiad ym Mharc Hamdden Ffont-y-gari fel rhan o fenter Croeso Cynnes Cyngor Bro Morgannwg.
Bydd y digwyddiad, sy'n rhedeg rhwng 11am ac 1pm ddydd Mawrth, yn cael ei gynnal yn ardal y bar ac mae ar agor agored i bawb, er y bydd ffocws penodol ar bobl 50 oed a throsodd.
Bydd Age Connects, y Cyngor Iechyd Cymuned, Pobl, Hafod, Age Friendly Vale a Fforwm Strategaeth 50+ y Fro yn bresennol er mwyn cynnig cyngor ar bynciau gan gynnwys tai, iechyd a hawliau ariannol.
Mae te a choffi am ddim ar gael, ac mae croeso i bobl ddod heb siarad ag unrhyw un o'r asiantaethau.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o fenter ehangach Croeso Cynnes y Cyngor, sy'n ceisio cynorthwyo trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw.
Mae amrywiaeth o leoliadau wedi agor ledled y Fro i gynnig lle cynnes a chroesawgar i bobl ddod at ei gilydd heb gost.
Yno gallant fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, os ydynt yn dymuno, a chael mynediad at gymorth costau byw.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Yn ystod yr hydref a'r gaeaf, rydym nid yn unig wedi chwilio am ffyrdd o helpu trigolion trwy gyfnod o bwysau ariannol sylweddol, ond hefyd ddod o hyd i ffordd i ddod â'n cymunedau at ei gilydd.
"Erbyn hyn mae tua 40 o leoliadau yn cynnig Croeso Cynnes i drigolion, yn cynnig dosbarthiadau coginio, gweithgareddau i blant, sesiynau crefft a mwy, i gyd ochr yn ochr â chyfle i gael diod gynnes mewn lle cynnes.
"Bydd y digwyddiad hwn yn Ffont-y-gari yn rhoi’r cyfle i bobl gael mynediad at gymorth ac arweiniad penodol i bobl dros 50 oed, er bod croeso i unrhyw un alw draw am baned o de."
Mae'r holl leoliadau sy'n cynnig Croeso Cynnes ym Mro Morgannwg am ddim, a bydd gweithgareddau’n cael eu lledaenu ar draws yr wythnos. Mae pob lleoliad yn cynnig gwahanol fath o gyfle i fwynhau cwmni, cymryd rhan mewn gweithgaredd, a manteisio ar y cyfleusterau sydd ar gael.
Mae manylion am yr hyn sydd ar gael ym mhob lleoliad i’w gweld ar yr Hyb Cymorth Costau Byw ar wefan Cyngor Bro Morgannwg. Mae'r Hyb hefyd yn cynnig gwybodaeth am grantiau cymorth costau byw a sut i gael cyngor a chymorth gan y Cyngor ac amrywiaeth o bartneriaid.