Cost of Living Support Icon

 

Neges gan Arweinydd y Cyngor ar ddaeargryn Twrci a Syria

Mae'r Cynghorydd Lis Burnett wedi anfon neges at drigolion yn dilyn y drychineb yn ddiweddar.

 

  • Dydd Mawrth, 14 Mis Chwefror 2023

    Bro Morgannwg



 

"Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld golygfeydd gofidus yn dod i'r amlwg o Dwrci a Syria yn y cyfryngau," meddai.

 

"Nawr, wythnos yn ddiweddarach, mae'r golygfeydd dinistriol yn parhau wrth i'r daeargryn roi miliynau o bobl mewn sefyllfa o fod angen lloches, bwyd a chymorth meddygol ar frys.

 

"Mae Bro Morgannwg yn gartref i lawer o drigolion Twrci a Syria a fydd hefyd yn teimlo pryder a phoen aruthrol wrth iddynt wylio canlyniadau'r daeargryn o bell.

 

"Mae ein meddyliau gyda phawb y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw.

 

"Mae nifer o drigolion y Fro wedi bod yn gofyn sut gallan nhw helpu.

 

"Y ffordd fwyaf effeithiol i unigolion gefnogi'r ymdrech cymorth rhyngwladol yw drwy gyfrannu at y sefydliadau sy'n cyflawni gweithrediadau rhyddhad ac achub rheng flaen.

 

"Mae Ffederasiwn Rhyngwladol y Groes Goch a Chymdeithas y Cilgant Coch, MSF UK, Oxfam, The White Helmets, y Pwyllgor Achub Rhyngwladol i gyd yn croesawu rhoddion ac efallai mai'r ffordd hawsaf yw drwy'r Pwyllgor Argyfyngau Brys, cynghrair o 15 elusen.  Pwyllgor Argyfyngau Brys (dec.org.uk).