Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn nodi blwyddyn ers dechrau’r rhyfel yn Wcráin

Ymunodd Arweinydd y Cyngor, Lis Burnett, a Maer Bro Morgannwg, Susan Lloyd-Selby, â phobl o amgylch y DU i nodi blwyddyn ers ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

 

  • Dydd Gwener, 24 Mis Chwefror 2023

    Bro Morgannwg



Ukraine Minute SilenceGwnaeth staff yr Awdurdod Lleol ac aelodau o’r cyhoedd hefyd ymgynnull y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig yn Heol Holltwn yn y Barri i nodi'r achlysur gydag un funud o dawelwch am 11am ddydd Gwener (24 Chwefror).

 

Roedd hyn yn rhan o ddigwyddiad cenedlaethol, a drefnwyd gan Lywodraeth y DU.

 

Roedd yn cynnig cyfle i fyfyrio ar y bywydau sydd wedi eu colli yn ystod y gwrthdaro, talu teyrnged i bobl Wcráin a dangos cefnogaeth i'w hachos.

 

Dwedodd y Cynghorydd Burnett:

"Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi syfrdanu'r byd wrth i ni wylio mewn arswyd y gwrthdaro ffyrnig, anghyfiawn a diangen sy'n parhau.

 

"Yma yn y Fro, rydym yn ymfalchïo mewn gwerthoedd fel goddefgarwch, derbyniad a thosturi ac mae ein meddyliau’n parhau gyda phobl Wcráin.

 

"Er mwyn dangos yr undod hwnnw, cawsom funud o dawelwch i ystyried effaith y rhyfel, y difrod y mae wedi'i wneud ac ailddatgan ein gwrthwynebiad llwyr iddo."