Barry Market Reopening a Big Success
Cafodd y farchnad newydd ar Sgwâr y Brenin yng Nghanol Tref y Barri ei dadorchuddio ddydd Sul 5 Chwefror a heidiodd llu o bobl i ymweld â'r stondinau newydd.
Menter gan Gyngor Bro Morgannwg yw'r farchnad i annog mwy o bobl i siopa yng nghanol y dref a bywiogi’r dref. Daeth y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, ar ddiwrnod cyntaf y farchnad i weld y dewis o stondinau.
Roedd Green Top Events Ltd, sydd bellach yn gweithredu'r farchnad, yn cynnig ystod amrywiol o stondinau o ansawdd da gan gynnwys cigyddion, ffrwythau a llysiau, becws, crefftau a mwy.
Roedd y farchnad liwgar wedi'i chydlynu'n dda yn brysur trwy gydol y dydd gan ddenu llawer o ymwelwyr ychwanegol i ganol y dref. Dywedodd rhai o'r siopau lleol eu bod wedi gweld llawer o wynebau newydd yn siopa yng nghanol y dref.
Roedd seddi ar gael ar y sgwâr i bobl eistedd a mwynhau'r bwyd a brynwyd o wahanol stondinau newydd y farchnad.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks:"Rwy'n falch iawn o weld bod marchnad wedi dychwelyd i ganol tref y Barri.
"Mae'n hyfryd gweld cynifer o werthwyr, o stondinau marchnad traddodiadol i fwyd stryd i bobl eu mwynhau."
"Y gobaith yw y bydd y fersiwn newydd o’r farchnad yn llwyddiannus ac yn denu mwy o bobl i ymweld â'r ardal."
Dywedodd Graham o Num Nums, cwmni becws lleol o'r Barri sydd â stondin ar y farchnad: "Mae'n galonogol iawn gweld marchnad yn dychwelyd i'r Barri. Mae wedi bod yn llwyddiant i fy musnes."
Mae'r cwmni yn treialu diwrnodau ac oriau agor gwahanol ar gyfer y farchnad, gyda'r un nesaf yn cael ei chynnal ddydd Gwener 24Chwefror ac mae sawl stondinwr eisoes wedi ymrwymo i gymryd rhan.