Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro yn cynnal Partïon Nadolig am Ddim
Fe wnaeth Tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) y Cyngor ledaenu rhywfaint o hwyl yr ŵyl yn gynharach y mis hwn wrth iddyn nhw gynnal dau barti Nadolig i deuluoedd yn y Fro ar 6 Rhagfyr.

Mynychodd dros 700 o blant, rhieni a gofalwyr y digwyddiadau am ddim yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Memo, y Barri, gan gymryd rhan mewn sawl gweithgaredd Nadoligaidd a drefnwyd gan nifer o ddarparwyr gwasanaeth sy’n gweithredu ledled y Fro.
Cymerodd sefydliadau fel y Tîm Datblygu Chwarae a Chwaraeon, Dewis Cymru, y Tîm Cymorth Cynnar, Dechrau'n Deg, Mudiad Meithrin, Cymunedau am Waith a Mwy a llawer mwy ran ac ymgysylltu â theuluoedd am eu gwasanaethau, wrth gynnig gweithgareddau Nadolig gwych.
Cafodd plant gyfle i gwrdd â Siôn Corn, yn ogystal â gwylio perfformiadau dawns gan ddau grŵp dawns lleol; Dawns Razzle Dazzle, a Bliss Dance. Bu plant iau hefyd yn cymryd rhan mewn canu Cymraeg gyda’r Mudiad Meithrin.
Dywedodd Kely Fenton, Swyddog Allgymorth a Gwybodaeth y Tîm GGiD a drefnodd y digwyddiadau hefyd: “Mae'r adborth gan rieni a darparwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol.
“Roedd mor hyfryd gweld cymaint o deuluoedd yn mynd i hwyl yr ŵyl ac yn cael y cyfle i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw, wrth hefyd gael amser Nadoligaidd gwych gyda'u plant.”
Mae'r GGiD yn cysylltu teuluoedd â gwasanaethau a chymorth, gan gynnwys gofal plant, cymorth gyda chostau gofal plant, gwasanaethau cymorth i deuluoedd a gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc. Gallwch ddysgu mwy am GGiD ar-lein.