Cost of Living Support Icon

 

Camau gorfodi a gymerwyd i atal gwaith ar safle Hayes Rd 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi Hysbysiad Stop Dros Dro sy'n ei gwneud yn ofynnol i berchennog safle yn Hayes Road yn Sili atal gwaith peirianneg tir heb awdurdod a oedd yn cael ei wneud heb ganiatâd cynllunio.  

 

  • Dydd Gwener, 22 Mis Rhagfyr 2023

    Bro Morgannwg



Ymwelodd tîm gorfodi cynllunio'r Cyngor â'r safle ar 20 Rhagfyr 2023 ar ôl derbyn cwynion gan drigolion.  

 

Cadarnhaodd swyddogion y cyngor fod gwaith gweithredol yn cael ei wneud ar y safle sydd angen caniatâd cynllunio ac oherwydd yr effaith bosibl ar fioamrywiaeth ac archaeoleg a allai fodoli ar y safle a halogiad posibl yr ardal ystyrir bod y gwaith yn annerbyniol.

 

Roedd y Cyngor o'r farn bod y gwaith hwn yn annerbyniol a chyhoeddodd yr hysbysiad ar 21 Rhagfyr 2023 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gwaith hwn ddod i ben ar unwaith.  Mae'r hysbysiad hwn yn weithredol tan 18 Ionawr 2024.  Mae Hysbysiad Gorfodi hefyd wedi'i gyhoeddi sy'n dod i rym ar 19 Ionawr 2024 ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r gwaith ddod i ben yn barhaol.   

 

Nid yw'r weithred hon yn atal y tirfeddiannwr rhag gweithredu'r caniatâd cynllunio diweddar a roddwyd ar gyfer codi ffensys ar y safle. Mae dau gais arall am ganiatâd cynllunio ar y safle sydd eto i'w penderfynu.