Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn gofyn am adborth ar Strategaeth Ddigidol

Mae'r Cyngor wedi datblygu Strategaeth Ddigidol newydd, i adeiladu ar waith sydd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf i foderneiddio, gwneud ei wasanaethau'n fwy effeithlon a sicrhau bod preswylwyr wrth wraidd yr hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud a sut mae'n gweithio. 

 

  • Dydd Iau, 17 Mis Awst 2023

    Bro Morgannwg



Mae gan y strategaeth bedair thema allweddol a chyfres o ymrwymiadau i'w cyflawni dros y pum mlynedd nesaf. 

 

Thema gyntaf y Strategaeth yw Cymuned a Chyfranogiad sy'n ceisio sicrhau bod cymunedau'n cael eu clywed, eu hanghenion yn cael eu deall a bod gwasanaethau'n hygyrch a chynhwysol. 

 

Mewn mannau eraill bydd y gwaith yn canolbwyntio ar sut mae'r Cyngor yn gweithio i ddarparu gwasanaethau digidol yn llwyddiannus a sut mae hyn yn sicrhau canlyniadau i gydweithwyr a phreswylwyr. 


Mae gan y Strategaeth thema gref o ran datblygu'r gweithlu i sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr hyder a'r offer i gyflawni ar gyfer dinasyddion. 


Yn olaf, bydd y ffordd y defnyddir data i lywio'r ffordd y mae'r Cyngor yn gwneud penderfyniadau yn cael sylw arbennig yn y blynyddoedd i ddod. 

Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  "Rwy'n ffyddiog, trwy ein gweledigaeth ddigidol uchelgeisiol a'r ymrwymiadau sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth hon, y bydd y ffordd yr ydym yn gweithio a'r gwasanaethau a ddarparwn i'n preswylwyr yn fwy effeithiol, perthnasol ac yn seiliedig ar dystiolaeth."

Gwahoddir preswylwyr i rannu eu barn ar gynnwys y strategaeth, y gellir ei gweld yn cymrydrhan.valeofglamorgan.gov.uk/digidol cyn 8 Medi. 


Gellir cyflwyno sylwadau drwy arolwg ar-lein, drwy ffonio canolfan gyswllt y Cyngor ar 01446 700111 neu drwy e-bostio consultation@valeofglamorgan.gov.uk 


Mae copïau caled o'r strategaeth a'r arolwg hefyd ar gael ar gais.


Bydd Cabinet y Cyngor yn adolygu'r sylwadau ar y strategaeth ddrafft cyn cytuno ar strategaeth derfynol yn gynnar yn yr hydref.