Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor a Legacy Leisure yn ariannu rhaglen digwyddiadau ieuenctid

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â Legacy Leisure i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau gweithgareddau ieuenctid.

  • Dydd Gwener, 11 Mis Awst 2023

    Bro Morgannwg


 

 

Wedi'i ariannu gan y Cyngor, mae rhai o'r sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r haf, gydag eraill yn ddiweddarach eleni a'r flwyddyn nesaf.

 

Children-Playing-Football

Maent yn cael eu trefnu gan Legacy Leisure, tîm Byw’n Iach y Cyngor a'r Gwasanaeth Ieuenctid, ynghyd â chlybiau chwaraeon lleol.

 

Y nod yw cynyddu iechyd a lles ymhlith aelodau iau o'r gymuned, gyda phlant rhwng 14 a 18 oed wedi’u nodi fel rhai sydd wedi’u heffeithio’n negyddol gan y pandemig.

 

Mae'r sesiynau sydd ar gael yn cynnwys ffitrwydd, nofio, pêl-fasged, golff, pêl-droed bocsio, dawns a mwy, ac maent wedi'u targedu at ystod o grwpiau oedran dros 11 oed.

 

Byddant yn cael eu cynnal yng nghanolfannau hamdden Y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr, yn ogystal ag amrywiaeth o leoliadau eraill dan do ac awyr agored ar draws y Fro. 

Mae amserlen lawn o ddigwyddiadau ar gael ar dudalen we Datblygu Chwaraeon y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Mae gan y Cyngor berthynas waith agos gyda Legacy Leisure, y cwmni sy'n gyfrifol am weithredu ein canolfannau hamdden.  Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o'r ddau sefydliad yn dod at ei gilydd i gynnig cyfleoedd i drigolion wella eu hiechyd a'u lles.

 

"Mae hon yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor, yn ogystal â chefnogi ein pobl ifanc, y mae llawer ohonynt wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y coronafeirws a'r holl aflonyddwch a achosodd."