Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn Gwahodd Trigolion y Glannau i Gyfarfod Cymunedol

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd trigolion o gymuned Glannau’r Barri i gyfarfod cyhoeddus i drafod materion parhaus gyda Chonsortiwm y Glannau.

 

  • Dydd Iau, 31 Mis Awst 2023

    Bro Morgannwg



Heriodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett, a'r Prif Weithredwr, Rob Thomas, y Consortiwm yn ddiweddar am y diffyg cynnydd o ran darparu cyfleusterau cymunedol ac eraill pwysig yn eu datblygiad mawr yn y Barri.


Rhoddwyd caniatâd cynllunio i Gonsortiwm y Glannau, sy'n cynnwys adeiladwyr tai cenedlaethol Persimmon Homes, Taylor Wimpey a Barratt Homes ar gyfer y prosiect hwn ym mis Mawrth 2012.


Fodd bynnag, er bod eiddo newydd yn parhau i gael eu codi a'u gwerthu'n gyflym, ychydig iawn o gynnydd sydd wedi'i wneud ar elfennau pwysig eraill o'r cynllun. 


Mae mannau gwyrdd, parciau a llwybrau troed i'w gorffen o hyd, tra bod ffyrdd yn parhau i fod mewn cyflwr lle maent ond wedi’u cwblhau'n rhannol. 


Yn y gorffennol, bu'n rhaid i'r Cyngor weithredu yn erbyn Consortiwm y Glannau i sicrhau bod cyfadeilad o siopau, bariau a bwytai a adnabyddid fel y Ganolfan Ardal yn cael ei adeiladu, tra bod adeilad ysgol newydd Sant Baruc wedi'i chwblhau dim ond ar ôl i'r Cyngor fygwth camau cyfreithiol. 


Mae'r Consortiwm yn parhau i roi esgusodion am y diffyg cynnydd o ran darparu cyfleusterau cymunedol hir-ddisgwyliedig. 

 

Barry Waterfront Community Meeting  (1)Diben y cyfarfod cymunedol, a gynhelir ddydd Llun 18 Medi rhwng 4:30 a 6pm yn Bar Espresso yr Academi, yw dysgu gan drigolion Glannau’r Barri am eu profiadau o fyw ar y datblygiad hwn a'u hymwneud â'r Consortiwm. 


Mae'r Cyngor yn dymuno gweithio gyda'r gymuned i gynyddu'r pwysau ar y datblygwyr i gyflawni'r holl elfennau yn eu cytundeb ac o fewn eu rheolaeth. 


Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn agored i bawb ac mae'n gyfle i drigolion ddysgu am y camau diweddaraf y mae'r Cyngor wedi'u cymryd yn ogystal â rhannu eu profiadau ag uwch swyddogion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: “Rwyf wedi ymrwymo i ymgysylltu â thrigolion i ddysgu am eu profiadau. Fel Cyngor, rydym yn ymdrechu i adeiladu cymunedau cryf ac mae’r Consortiwm yn methu ag adeiladu unrhyw beth ond tai a fflatiau y gall elwa arnyn nhw.


“Fel Cyngor, byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddwyn y datblygwyr i gyfrif a sicrhau eu bod yn anrhydeddu eu hymrwymiadau.”


“Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â Chymuned Glannau’r Barri a chymryd camau gyda'n gilydd.”