Canolfan Gymunedol Belle Vue yn cynnal digwyddiad lansio
Roedd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Lis Burnett, yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon a Lles Hamdden, Gwyn John a'r Prif Weithredwr Rob Thomas ymhlith y rhai a oedd yn mynychu diwrnod agored yng Nghanolfan Gymunedol Belle Vue sydd newydd gael ei huwchraddio.
Wedi’i gynnal rhwng 10am a 4pm ddydd Mercher, roedd cyfle i bobl weld y cyfleuster a mynegi diddordeb i’w ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol.
Dechreuodd y gwaith o ailwampio'r adeilad ym mis Mehefin y llynedd ac roedd yn golygu dymchwel yr hen bafiliwn cyn adeiladu un newydd modern.
Mae Cyfeillion Parc Belle Vue, grŵp lleol ymroddedig i’r lleoliad, a'r clwb bowlio sydd wedi'i leoli yno wedi bod yn rhan o'r prosiect, a ariannwyd yn rhannol gan y Loteri Genedlaethol.
Mae'r ganolfan gymunedol yn cynnwys gofod amlswyddogaethol y gellir ei rannu'n dair ystafell fawr, sydd ar gael i'w llogi, cegin, ystafelloedd newid dynion a menywod a lle newid cwbl hygyrch i ddefnyddwyr anabl.
Dyma'r trydydd lle newid o'i fath yn y Fro, gydag eraill ym Mharc Gwledig Cosmeston ac ar Ynys y Barri, ac mae toiled a chawod hygyrch, teclyn codi a phlinth, sy'n golygu y gall pobl ag anghenion ychwanegol ddefnyddio'r ganolfan hefyd.
Mae gwaith i uwchraddio'r ardal chwarae gerllaw hefyd wedi'i gwblhau ac mae hynny bellach hefyd yn cynnwys ystod o offer hygyrch.
Bydd Cwmni Arlwyo Big Fresh y Cyngor yn gweithredu caffi o safle'r ganolfan gymunedol, gan adeiladu ar lwyddiant gweithrediad tebyg ym Mhafiliwn Pier Penarth.
Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae llawer o waith caled wedi’i wneud i drawsnewid Pafiliwn Belle Vue yn ofod modern i'r gymuned gyfan ei fwynhau.
"Roedd yn wych gweld yr adeilad newydd, a gobeithio y gall fod yn ganolbwynt go iawn i'r ardal leol. Byddwn yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn llogi'r adeilad ar gyfer eu gweithgaredd i gysylltu i weld beth sydd ganddo i'w gynnig.
"Mae gwahanol ystafelloedd ar gael, a chaffi ar y safle sy'n cynnig diodydd a byrbrydau o ansawdd uchel.
"Mae'r adeilad yn gwbl hygyrch ac yn addas ar gyfer amrywiaeth o wahanol ddosbarthiadau, cyfarfodydd a digwyddiadau."
Gall unrhyw un sydd am logi'r adeilad drefnu ymweliad trwy e-bostio BelleVue@valeofglamorgan.gov.uk.
I gadarnhau archeb, bydd angen gwybodaeth fanwl am y math o weithgaredd a gynigir, ynghyd â'r diwrnod a'r amser y gofynnir amdanynt a manylion cyswllt llawn ar gyfer y sefydliad a'r unigolyn priodol.
Bydd prisiau llogi yn dechrau o tua £20 yr awr yn dibynnu ar y defnydd arfaethedig a faint o le sydd ei angen.