Cost of Living Support Icon

 

Ail ymgynghoriad wedi'i lansio ar gyfer y llwybr teithio llesol Sili i Cosmeston.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal ail ymgynghoriad ar gynlluniau i greu llwybr teithio llesol rhwng Sili a Cosmeston. 

 

  • Dydd Mercher, 26 Mis Ebrill 2023

    Bro Morgannwg



Nod llwybrau teithio llesol yw hyrwyddo beicio a cherdded fel dewisiadau amgen i ddulliau teithio llai ecogyfeillgar.

 

Yn yr ymgynghoriad cyntaf, gofynon ni am farn pobl ar sawl llwybr cerdded a beicio posib er mwyn cysylltu'r ddwy ardal.  Mae'r llwybr mwyaf poblogaidd, ar hyd yr hen reilffordd (fel y dewiswyd gan y cyhoedd) wedi cael ei symud ymlaen i'r cam dylunio nesaf.

 

Mae’r ail ymgynghoriad yn gyfle i'r cyhoedd ddweud wrth y Cyngor beth maen nhw'n ei feddwl am y cynigion maen nhw wedi'u dylunio.

 

Nod y cynllun hwn yw cynnig amgylchedd mwy diogel i gerddwyr a beicwyr a darparu cyfleoedd gwell ar gyfer teithio llesol, yn enwedig i ddefnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed a disgyblion ysgol.

 

Oherwydd lled cul y llwybr a rennir presennol, nid yw'r llwybr presennol yn cydymffurfio â safonau Teithio Llesol. 

 

Nod y Cyngor yw creu llwybr sy'n fwy diogel a hygyrch, drwy ehangu'r llwybrau presennol a chlirio unrhyw ordyfiant ymwthiol, ynghyd â gwelliannau eraill.

 

Er mwyn gwella diogelwch ymhellach a chydymffurfio â chanllawiau Teithio Llesol, bwriedir lleihau'r terfyn cyflymder ar y ffordd i 30mya.

 

Dwedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy:"Byddai gwella darpariaeth cerdded a beicio yn yr ardal hon yn rhoi llwybr mwy diogel rhwng y lleoliadau hyn i ddefnyddwyr sy'n teithio fel hyn.

 

"Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn annog trigolion i ddefnyddio'r llwybr fel dewis amgen i wahanol fathau o drafnidiaeth modur, a fyddai yn ei dro o fudd i'r amgylchedd.

 

“Mae hyn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad Prosiect Sero i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.   Rydym hefyd eisiau annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol a dylai creu Llwybrau Teithio Llesol helpu i gyflawni hynny." 

 

Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 12 Ebrill a 3 Mai a bydd yn cynnwys sesiwn galw heibio Ddydd Iau 25 Ebrill yn yr Hen Ysgol, Sili.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan